Cyflwyno adroddiad arwyddocaol yn y Senedd
Ddydd Mercher, 22 Mai, cyflwynodd cyfarwyddwyr Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru, a darlithwyr Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd Prifysgol Bangor, Yr Athro Lucy Huskinson, Dr Joshua Andrews a Dr Gareth Evans-Jones, a’u cymrawd ymchwil, Ms Rachel Healand-Sloan, ganfyddiadau ymchwil bwysig gerbron Grŵp Ffydd Trawsbleidiol Senedd Cymru.
Ers mis Hydref 2022, mae’r Ganolfan wedi derbyn llif cyson o adroddiadau ac adborth gan athrawon ysgolion cynradd, uwchradd, ac addysg bellach ledled Cymru, ynglŷn a’r modd y mae’r cwricwlwm newydd ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM), sydd wedi cymryd lle ‘Addysg Grefyddol’ fel pwnc i ddisgyblion hyd at Gyfnod Allwedol 4, wedi cael ei roi ar waith.
Roedd canfyddiadau’r ymchwil a gwblhawyd yn taflu goleuni ar nifer o agweddau sy’n peri pryder gwirioneddol. Cynnwys hyn y ffaith fod cyfran sylweddol o’r ymatebwyr yn dweud nad oedd eu sefydliadau yn cynnig addysg am grefydd, gwerthoedd a moeseg i ddisgyblion hyd at ddiwedd Cyfnod Allweddol 4; dim ond hyd at Gyfnod Allweddol 3 (sy’n mynd yn groes i fandad cyfreithiol Cymru). Nodwyd diffygion yn yr adnoddau sy’n bod i gynorthwyo addysgu’r cwricwlwm newydd; yn enwedig yn y Gymraeg – gan mai un gwerslyfr Saesneg yn unig sydd ar gael, ac nid oes bwriad cyhoeddi cyfieithiad Cymraeg ohono.
Yn y 43ain cyfarfod Grŵp Ffydd Trawsbleidiol, a gadeiriwyd gan Darren Millar AS, cyflwynodd yr Athro Lucy Huskinson, Dr Gareth Evans-Jones a Dr Andrews eu hymchwil, drwy nodi cyd-destun y Ganolfan a’i gwaith, drwy amlinellu rhai o’r canfyddiadau, a thrwy gyflwyno’u hargymhellion i’r llywodraeth ymateb iddynt.
“Roedd cael ein gwahodd i gyflwyno gerbron y grŵp yn werthfawr iawn”, meddai Dr Joshua Andrews, “gan ei fod yn gyfle inni fynegi pryderon y degau ar ddegau o athrawon sydd wedi bod yn cysylltu gyda’r Ganolfan wrth y sawl a allai eu helpu’n strwythurol. Mae’r straeon rydym wedi eu clywed ac yn dal i’w clywed yn peri loes calon.”
Ychwanegodd Dr Gareth Evans-Jones, “Eisiau gofalu bod Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn cael y chwarae teg gorau ydy bwriad yr ymchwil rydym yn ei gwneud. Gydag unrhyw newid i’r cwricwlwm, mae’n bwysig gofalu am isadeiledd sicr er mwyn i’r pwnc ffynnu. A chyda hynny, ofalu bod yr addysg a’r adnoddau’n gwbl ddwyieithog; fel nad yw addysg drwy gyfrwng y Gymraeg na’r Saesneg dan unrhyw anfantais.”
Mae’r cyfarfod a gynhaliwyd yng Nghaerdydd wedi denu sylw’r BBC, a dydd Sul, 26 Mai, cynhaliwyd cyfweliad gyda John Roberts ar raglen Bwrw Golwg, BBC Radio Cymru, am yr hyn sydd wedi dod i law, ac mae erthygl wedi’i llunio am ganfyddiadau’r adroddiad ar wefan BBC Cymru Fyw.
Mae’r Ganolfan yn parhau i wneud ymchwil bellach i’r mater hwn ac yn cynnal cyfres o gyfweliadau gydag athrawon ledled Cymru (bydd y cyfweliadau’n cael eu cadw’n anhysbys fel y gall cyfranwyr siarad yn agored heb oblygiadau iddynt). Ac mae’r
Ganolfan yn awyddus i glywed gan gynifer ag sy’n bosibl, felly os y gwyddoch am unrhyw athro sy’n dysgu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, neu Addysg Grefyddol, neu’r Dyniaethau, buasai’r Ganolfan yn ddiolchgar iawn petaent yn cysylltu drwy e-bost: ncrew@bangor.ac.uk.
Dolenni allanol: