Yn Law and War in Popular Culture, mae ysgolheigion rhyngwladol blaenllaw yn darparu safbwyntiau newydd ar gyfraith a rhyfel mewn diwylliant poblogaidd. Maent yn dadansoddi gweithiau o ddiwylliant poblogaidd, yn eu gosod yn eu cyd-destun adeg eu tarddiad ac yn trafod eu hystyr ar gyfer cynulleidfaoedd heddiw. Archwilir y gyfraith a rhyfel mewn ffilm, cyfresi teledu, opera a cherddoriaeth bop yn y deg pennod o'r llyfr gan awduron sy'n dod o bynciau astudiaethau'r cyfryngau, gwyddor wleidyddol, cymdeithaseg, y gyfraith a throseddeg yn ogystal â cherddoriaeth.
Mae rhyfeloedd nid yn unig yn cynhyrchu troseddau rhyfel, mae cyfraith hefyd yn ymwneud yn ddwfn ar raddfa ehangach: trwy alluogi rhyfela, rheoleiddio neu fethu â rheoleiddio ei ymddygiad ac yn dilyn rhyfeloedd. Mae darllenwyr yn elwa o ystod o safbwyntiau ac ymagweddau at ddarluniau o gyfraith a rhyfel.
Gyda chyfraniadau gan yr ysgolheigion canlynol: Nathan Abrams, Michael Asimow, Ann Ching, John Cunningham, Steve Greenfield, Michael Lipiner, Stefan Machura, Iker Nabaskues Martínez de Eulate, Peter Robson a Ferdinando Spina.