Edrychai 'Social Policy for Welfare Practice in Wales', wedi ei olygu gan Dr Hefin Gwilym a'r Athro Charlotte Williams o Brifysgol Bangor, dros ugain mlynedd o'r Cynulliad, erbyn hyn y Senedd, gan adlewyrchu ar lwyddiannau a heriau'r ddau ddegawd diwethaf.
Ymysg y meysydd sy'n cael eu harchwilio y mae agwedd Cymru o ran mynd i'r afael â tlodi ac anghydraddoldeb, hawliau a gwasanaethau plant, iechyd cyhoeddus a iechyd a lles, tai, polisi iaith, newid hinsawdd a budd cymdeithasol, hawliau dynol a chyfiawnder cymdeithasol a throseddol.
Meddai Dr Hefin Gwilym, darlithydd mewn polisi cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor,
"Roedd yn teimlo'n amserol i archwilio'r cyflawniadau a'r heriau di-os sy'n ein hwynebu o ran polisi cymdeithasol wrth inni agosáu at ugain mlynedd ers creu'r Cynulliad. Ar gyfer y drydedd gyfrol hon, rydym yn gweithio gydag academyddion blaenllaw yn y maes i archwilio'r dull Cymreig. Hefyd, mae'n bwysig darparu adnodd nid yn unig i fyfyrwyr polisi cymdeithasol a gwaith cymdeithasol ond cyfrol gyfredol ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes lles cymdeithasol a rheolaeth y sector cyhoeddus."
Pwysleisiodd yr Athro Charlotte Williams, Athro Anrhydeddus yn yr Ysgol Hanes, Athroniaeth a Gwyddorau Cymdeithas ym Mangor,
"Yr hyn sy'n amlwg o archwilio'r ugain mlynedd diwethaf fel hyn yw bod gan Gymru'r dychymyg i fod yn arloesol ac i greu syniadau polisi newydd. Mae polisi cymdeithasol Cymru dros y blynyddoedd wedi bod o ddiddordeb yn rhyngwladol, mewn rhai achosion yn arwain y byd, ond mae wastad potensial i wneud mwy. Mae gennym gyfle yn y dyfodol i adeiladu cymdeithas gref, gynhwysol a theg i'r holl bobl sy'n byw yn y rhan yma o'r byd. "
Ychwanegodd y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru,
"Fel rhywun sydd wedi ysgrifennu, darllen ac addysgu o'r gyfrol hon, rwy'n gwybod fy hun pa mor werthfawr ydyw. Ar hyd y ffordd, mae'r cyfranwyr i wahanol gyfrolau yn darllen fel rhestr o rai o ysgolheigion gorau Cymru yn yr oes ddatganoledig, ac rwy'n falch iawn o groesawu'r gyfrol ddiweddaraf hon. "
Social Policy for Welfare Practice in Wales - Third Edition
Cyhoeddwyd gan BASW/Venture Press