Bydd y cyllid a ddyfernir gan y Comisiwn Ewropeaidd yn galluogi datblygiad prosiect sy'n canolbwyntio ar y rôl a chwaraeir gan gymunedau integreiddio rhanbarthol wrth ddwyn i gyfrif unigolion sy'n gyfrifol am gyflawni troseddau rhyngwladol craidd (troseddau rhyfel, troseddau yn erbyn dynoliaeth, hil-laddiad a rhyfel ymosodol). Bydd yn edrych yn arbennig ar yr UE a'r EAC (Cymuned Dwyrain Affrica), gan gymharu a chyferbynnu dulliau'r sefydliadau goruwchgenedlaethol hyn yn wyneb y troseddau mwyaf erchyll sy'n digwydd yn eu hardaloedd daearyddol.
Bydd y wobr yn galluogi Dr Trouille i ddatblygu ei harbenigedd mewn ymatebion i droseddau craidd gan gymunedau rhyngwladol rhanbarthol trwy ymweliadau ymchwil â sefydliadau allweddol yn yr Hâg ac yn Arusha, i gyfnewid ag arbenigwyr yn y maes, ac i archwilio rhyngweithio rhwng yr UE a’r Llys Troseddol Rhyngwladol (ICC), a chylchoedd gwaith hawliau dynol yr EAC a'r Undeb Affricanaidd. Bydd yr arbenigedd uwch hwn yn bwydo i mewn i addysgu mewn Cyfraith Droseddol Ryngwladol.
Wrth adlewyrchu ar y newyddion gwych, dywedodd Dr Trouille:
“Rydw i’n gyffrous iawn fy mod wedi derbyn y cyllid hwn. Rydym yn byw mewn amseroedd hynod gythryblus, gyda gwrthdaro mawr yn bod. Mae'r UE a'r EAC wedi datblygu o ymrwymiad i feithrin heddwch a rheolaeth y gyfraith. Maen nhw'n cael eu profi i'r eithaf ar hyn o bryd.”
Edrychwn ymlaen yn fawr at weld y prosiect hwn yn datblygu.