Cymrodoriaeth Addysgu i’n Dr Joshua Andrews
Mewn seremoni raddio yr haf hwn, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Addysgu gan Brifysgol Bangor i Dr Joshua Andrews, Darlithydd Moeseg a Chrefydd, i gydnabod ei waith hynod ysbrydoledig fel addysgwr.
Llongyfarchiadau enfawr i Dr Joshua Andrews, darlithydd mewn Moeseg a Chrefydd yn yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, ar dderbyn Cymrodoriaeth Addysgu Prifysgol Bangor mewn seremoni raddio’r haf.
Rhoddir y Gymrydoriaeth i gydnabod a dathlu gwaith clodwiw academydd sy’n ysbrydoli, yn ysgogi ac yn annog eu myfyrwyr i wneud y gorau o’u gallu’n wastadol. Mae Dr Joshua Andrews yn un o ffigyrau mwyaf deinamig ac ymgysylltiol ein Hysgol sy’n ymwneud yn effeithiol ag addysg a gofal bugeiliol ein myfyrwyr. Yn wir, mae ei waith fel Cyfarwyddwr Ymgysylltu Myfyrwyr yn eithriadol iawn ac mae’r gymuned addysgol a chymdeithasol ymysg ein myfyrwyr yn gyfoethocach o lawer o’i herwydd.
Dyma’r hyn ddywedodd yr Athro Peter Shapely, Pennaeth yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, yn ei araith am Dr Joshua Andrews yn y seremoni raddio: ‘Mae Joshua Andrews yn gaffaeliad gwych i’r Ysgol. Mae’n wastad yn mynd tu hwnt i ddulliau addysgu traddodiadol. Drwy ddulliau rhyngweithiol, megis trafodaethau panel ac aseiniadau melin drafod, mae wedi annog myfyrwyr i gymryd rhan weithredol yn eu haddysg eu hunain. Drwy ymgorffori’r mathau hyn o asesu arloesol, mae’n herio myfyrwyr i feddwl yn feirniadol a rhoi eu gwybodaeth ar waith mewn cyd-destunau ymarferol.
‘Mae Joshua wedi meithrin amgylchedd cynhwysol a chydweithredol lle mae myfyrwyr yn teimlo eu bod wedi'u grymuso i fynegi eu syniadau. Mae ei ymroddiad i feithrin awyrgylch ystafell ddosbarth deinamig i'w ganmol. Trwy ei ddulliau addysgu eithriadol, mae nid yn unig wedi cyflwyno gwybodaeth ond hefyd wedi ysbrydoli angerdd gwirioneddol dros ddysgu.'
![Dim disgrifiad ar gael](https://scontent-lhr8-1.xx.fbcdn.net/v/t1.15752-9/362000541_981606389747956_4507297973642488064_n.jpg?_nc_cat=103&cb=99be929b-3346023f&ccb=1-7&_nc_sid=ae9488&_nc_ohc=NVzhnmoSV-sAX9CA378&_nc_ht=scontent-lhr8-1.xx&oh=03_AdTaQi6Pla_k7P2bQZIGWKm4NH0pzqzyix0s6SU6hivIRg&oe=64DF38B8)
Meddai Dr Joshua Andrews: ‘Rydw i’n hynod ddiolchgar ac yn teimlo’n freintiedig i fod wedi derbyn Cymrodoriaeth Addysgu AU Prifysgol Bangor. Mae'r gydnabyddiaeth hon o f’ymroddiad i addysgu ac ymrwymiad i gyfoethogi'r profiad dysgu yn arwyddocaol iawn. Rydw i’n gyffrous i barhau i feithrin amgylchedd dysgu cynhwysol a chefnogol, gan rymuso myfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial.’
Yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor, wedi cwblhau ei raddau BA mewn Astudiaethau Crefyddol, MA mewn Crefydd ac Athroniaeth, a PhD gyda’r Ysgol Athroniaeth a Chrefydd, mae Dr Joshua Andrews bellach yn un o hoelion wyth y cwrs gradd Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd. Mae hefyd yn cyd-diwtora ar y cwrs TAR Addysg Grefyddol Uwchradd gyda’r Ysgol Addysg, ac yn gweithio’n agos ag amryw fudiadau addysgiadol ac estyn allan yn y brifysgol a’r tu hwnt. Ym mis Medi 2022, fe’i penodwyd yn Gyd-Gyfarwyddwr Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru sydd wedi’i lleoli ym Mangor ac yng Ngwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2023, fe enillodd Wobr Llais y Myfyriwr.
Llongyfarchiadau enfawr, Dr Joshua Andrews!