Daeth y digwyddiad nodedig hwn â myfyrwyr ar bob lefel ynghyd, o israddedigion blwyddyn gyntaf i ymchwilwyr PhD, gan roi llwyfan iddynt gyflwyno eu syniadau a’u hymchwil. Roedd amserlen y gynhadledd yn cynnwys amrywiaeth gyfoethog o bapurau yn archwilio athroniaeth, mytholeg, a diwylliant poblogaidd, gan arddangos ymrwymiad yr adran i feithrin creadigrwydd a rhagoriaeth academaidd.
Dechreuodd y diwrnod gyda chroeso cynnes o dan y teitl ysgogol, “Amser maith yn ôl yng Ngwynedd hoff ...” O hynny, camodd y myfyrwyr i bynciau amrywiol, gan gynnwys diwinyddiaeth yn The Elder Scrolls, safbwyntiau ffeministaidd mewn ffantasi, a moeseg ddirfodol Spider-Man.
Wrth fyfyrio ar y digwyddiad, dywedodd y cyd-drefnydd, Dr Gareth Evans-Jones:
“Roedd hwn yn gyfle arwyddocaol i’n myfyrwyr ymgysylltu â thema eithriadol ddifyr a chyflwyno papurau craff mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Roedd y prynhawn yn hynod ddiddorol, ac rydw i'n ddiolchgar iawn i bawb a gymerodd ran.”
Safbwyntiau Myfyrwyr
I lawer o fyfyrwyr, roedd y gynhadledd yn brofiad amhrisiadwy. Cymerodd Megan Keen, myfyriwr israddedig trydedd flwyddyn, ran mewn panel drafod ar ffeministiaeth mewn ffantasi. Dywedodd: “Fel rhywun sy’n bryderus am siarad yn gyhoeddus, roedd hwn yn gyfle gwych i drafod pwnc rydw i’n angerddol amdano mewn gofod cyfforddus. Rydw i mor falch o bawb a gymerodd ran!”
Cyflwynodd Jack Lowes, myfyriwr BA blwyddyn gyntaf, bapur diddorol ar The Joker trwy lens Nietzscheaidd. Dywedodd: “Roedd yn anhygoel clywed cymaint o wahanol safbwyntiau athronyddol. Roedd y syniadau’n haniaethol ac yn hynod ddiddorol, a dysgais gymaint am bynciau nad oeddwn i erioed wedi eu hystyried o’r blaen.”
Dathlu Cydweithio a Chreadigrwydd
O chwedlau cymharol yn trafod creu'r bydysawd i themâu Cristnogol The Lord of the Rings, dangosodd y gynhadledd ddyfnder ac amrywiaeth ymchwil myfyrwyr o fewn yr adran. Roedd yr awyrgylch gefnogol yn annog deialog ystyrlon, gan adael y cyflwynwyr a'r mynychwyr wedi'u hysbrydoli.
Mae’r adran yn edrych ymlaen at barhau â’r traddodiad hwn, gan roi cyfle i garfannau’r dyfodol archwilio syniadau beiddgar, rhannu eu hangerdd, a chael profiad academaidd gwerthfawr.
Am ragor o wybodaeth am gynadleddau myfyrwyr Athroniaeth, Moeseg, a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor, cysylltwch â Dr Gareth Evans-Jones: g.evans-jones@bangor.ac.uk.