Dr Kate Waddington yn Ennill Grant Ymchwil Anrhydeddus
![Kate Waddington](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2022-04/Kate_Waddington_Web_0.jpg?itok=Bvcu9F_o)
Gyda chryn falchder, rydym yn llongyfarch Dr Kate Waddington ar fod yn llwyddiannus yn ei chais am Grant Ymchwil Cymdeithas Hynafiaethau. Bydd y grant yn ariannu dadansoddiadau ôl-gloddiad o Feillionydd, lloc pen bryn o’r fileniwm gyntaf Cyn Cyfnod Cyffredin ym Mhen Llŷn. Bydd y nawdd yn talu am ymchwil hynod bwysig gan gynnwys dadansoddiad Bayesiaidd o 23 dyddiadau radiocarbon, delweddau llinellau du-a-gwyn o 55 arteffactau o’r Oes Haearn, a chynhyrchu nifer o adroddiadau gwrthrych a chatalogau gan arbenigwyr allanol. Bydd hyn yn arwain at gyhoeddi Cloddiadau Ardal Ddwyreiniol erbyn 2024, a fydd yn taflu goleuni gwerthfawr ar y lloc rhwng 2010 a 2014.