Ar ddydd Llun 8fed o Orffennaf a dydd Mawrth 9fed o Orffennaf, cafodd staff, myfyrwyr a’u ffrindiau a’u teuluoedd gyfle i ddathlu yng nghyflawniadau ein graddedigion. Gwelodd Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithasol lawer yn graddio o sawl cynllun, yn israddedigion ac ôl-raddedigion, yn raddau academaidd a phroffesiynol.
![Peter a Tracy](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2024-07/Graddio%20-%20Peter%20a%20Tracy.jpg?itok=PibXCTf9)
Wrth fyfyrio ar y deuddydd o ddathlu, dywedodd Peter Shapely, Pennaeth yr Ysgol:
“Mae graddio’r haf eleni wedi bod yn achlysur llawen iawn. Mae gallu ymgynnull i ddathlu cyflawniad ein myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig yn beth mor arwyddocaol, ac mae wedi bod yn wych gweld ein myfyrwyr, sydd wedi gweithio mor galed ac wedi cyflawni’n dda, yn cymryd y cam hwnnw i bennod nesaf eu bywydau.
“Mae Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas wedi cefnogi’r holl fyfyrwyr tra buon nhw yn astudio ym Mangor, ac rydym yn awyddus i gadw mewn cysylltiad a chlywed am eu straeon yn y dyfodol. Ydyn, maen nhw wedi graddio o’r Ysgol, ond fe fyddan nhw’n parhau yn rhan o deulu Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas.
“Hoffwn ddymuno llongyfarchiadau mawr i bob un sy’n graddio a phob dymuniad da ar gyfer y dyfodol.”
![Graddio newydd](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2024-07/Graddio%20newydd.jpg?itok=oZlZQhuh)
Yn ogystal â dathlu llwyddiannau pob un o’n myfyrwyr, roedd yn wych gallu amlygu rhai darnau o waith ac unigolion eithriadol. O’r herwydd, dyrannodd llawer o feysydd pwnc yr Ysgol wobrau i’n graddedigion. Gweler isod restr o'r gwobrau a'r derbynwyr.
Athroniaeth
- Gwobr Eryl W. Davies am gyflawniadau eithriadol: Kobe Griffiths a Raphey Hollywood.
Gwyddorau Cymdeithas
- Perfformiad Cyffredinol Gorau: Chelsea Tilley.
- Traethawd Hir Gorau: Chelsea Tilley.
![Kate a George Nebu](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2024-07/Graddio%20-%20Kate%20a%20Nebu.jpg?itok=6X47Mp4t)
Hanes ac Archaeoleg
- Gwobr Charles Mowat am y Myfyriwr Hanes Gorau (Israddedig): Isaac Bloor.
- Myfyriwr Archaeoleg Gorau (Israddedig): Misato Fukui.
- Gwobr Andrew Downham am y Traethawd Hir Hanes Gorau (Israddedig): Theodore Curtis.
- Y Traethawd Hir Archaeoleg Gorau (Israddedig): Misato Fukui.
- Traethawd Hir Gorau yn Gymraeg (Israddedig): Cai Tudur Williams.
- Gwobr Blanche Elwy-Hughes ar gyfer Myfyriwr Gorau Hanes Cymru (gan gynnwys yr elfen Israddedig ac MA): Beca Rhys Evans.
Y Gyfraith
![Graddio grŵp](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2024-07/Graddio%20gr%C5%B5p.jpg?itok=RL13rbxZ)
- Traethawd Hir Gorau yn y Gyfraith: Siriol Hughes.
- Perfformiad Cyffredinol Gorau yn y Gyfraith: Anastasia Maitre.
- Perfformiad Cyffredinol Gorau yn y Gyfraith Trwy Gyfrwng y Gymraeg: Siriol Hughes.
![Graddio newydd 2](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2024-07/Graddio%20newydd%202.jpg?itok=vgLvRZkg)
Llongyfarchiadau enfawr i bawb! Rydym yn hynod falch o bob un o’n graddedigion ac yn dymuno’r gorau iddyn nhw i gyd gyda’u dyfodol!
![Graddio 3 SHiLSS](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2024-07/Graddio%20Criw%203.jpg?itok=StjmnIsY)
![Graddio criw](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2024-07/Graddio%20criw.jpg?itok=VxocMHCP)
![Graddio Athroniaeth](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2024-07/Graddio%20criw%202.jpg?itok=VASMDcLP)
![Graddio Heulog](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2024-07/Graddio%20Haul.jpg?itok=x7lRsKgi)
![Graddio10.](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2024-07/Graddio10.jpg?itok=ZegaVxfA)
![Graddio 6](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2024-07/Graddio%206.jpg?itok=37VjguTu)
![Graddio 5](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2024-07/Graddio%205.jpg?itok=B6FmFbz-)
![Dr Mary Oldham](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2024-07/Dr%20Mary%20Oldham.jpg?itok=csf0DeFu)
![Lisa, Tracy a Josh](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2024-07/Lisa%2C%20Tracy%20a%20Josh.jpg?itok=PVgGMYOt)
![Rhian a Cynog](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2024-07/Rhian%20a%20Cynog.jpg?itok=_VwFdo-e)
![Graddio 3](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2024-07/Graddio%203.jpg?itok=wzqTfPzj)
![Athroniaeth a Chrefydd](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2024-07/Athroniaeth%20a%20Chrefydd_0.jpg?itok=GhIMPuH7)
![Graddio Grŵp 4](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2024-07/Graddio%20Gr%C5%B5p%204.jpg?itok=34kqpjQp)
![Graddio grŵp2](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2024-07/Graddio%20gr%C5%B5p2.jpg?itok=Jwga8ulr)
![Noel Thomas](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2024-07/Noel%20Thomas.jpg?itok=z8lGrVtU)
![Graddio grŵp 3](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2024-07/Graddio%20gr%C5%B5p%203.jpg?itok=nC2mqiMZ)