Arweinir Sefydliad Bochum gan yr Athro Stefan Berger, sy'n arbenigo mewn astudiaethau cenedlaetholdeb ac hunaniaeth genedlaethol, hanesyddiaeth a theori hanesyddol, astudiaethau llafur cymharol, a hanes treftadaeth ddiwydiannol. Cyn dod i Bochum, bu'n dysgu yng Nghaerdydd, Prifysgol Morgannwg, a Phrifysgol Manceinion.

Dywedodd Alexander, “Mae’n anrhydedd i mi gael fy ethol i’r rôl allweddol hon, ac i wasanaethu sefydliad hynod lwyddiannus sydd wedi ehangu ei weithgareddau’n fawr ers ei sefydlu yn 1980. Mae gan y Sefydliad safle unigryw sy’n cynnig ystod eang o wasanaethau i fyfyrwyr, ymchwilwyr a’r cyhoedd â diddordeb – yn enwedig o ran mudiadau cymdeithasol a gorffennol a phresennol rhanbarth Ruhr, ardal drefol fwyaf yr Almaen gyda phoblogaeth o dros 5 miliwn.
“Rwy’n awyddus i helpu i ehangu cysylltiadau rhyngwladol niferus y Sefydliad. Mae'r Sefydliad wedi ymrwymo'n arbennig i Gymdeithas Ryngwladol Sefydliadau Hanes Llafur (IALHI), yr Ysgol Ewropeaidd i Raddedigion ar gyfer Hyfforddiant mewn Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESTER), a Chynhadledd Ryngwladol Hanes Llafur a Chymdeithasol. Mae Sefydliad Hanes y Ruhr, sydd wrth asgwrn cefn y Sefydliad, hefyd yn ariannu Gwobr Haneswyr Bochum, un o’r gwobrau mwyaf mawreddog ym maes hanes yn yr Almaen. Mae enillwyr y gorffennol yn cynnwys yr haneswyr o'r DU Eric Hobsbawm, Catherine Hall, a Frank Trentmann. Byddwn yn annog cydweithwyr ym Mangor i ystyried cyfrannu erthyglau i'r cyfnodolyn rhyngwladol a adolygir gan gymheiriaid y sefydliad, Moving the Social – Journal of Social History and the History of Social Movements, sydd â’i wreiddiau yn nisgyblaeth hanes ond sydd â diddordeb amlwg mewn gwaith a gynhyrchwyd ar faterion cymdeithasol a mudiadau cymdeithasol gan ddisgyblaethau eraill, yn enwedig y gwyddorau cymdeithasol, daearyddiaeth, anthropoleg ac ethnoleg.”