Grant Arbennig yr Academi Brydeinig i David
Llongyfarchiadau i Dr David Veevers, Darlithydd mewn Hanes Modern Cynnar, ar dderbyn grant ymchwil o £10,000 gan gynllun Grantiau Bach hynod gystadleuol yr Academi Brydeinig. Bydd Dr Veevers yn ymweld ag archifau yn yr Antilles ac UDA gyda’r nod o ailgyflwyno hanes pobl frodorol y Caribî mewn naratifau ar gaethwasiaeth ac archwilio eu rôl fel llafur di-rydd yn economi planhigfeydd trefedigaethol Lloegr.
Wrth sôn am y grant, dywedodd Dr Veevers, "Bydd dyfarniad Grantiau Bach yr Academi Brydeinig o £10,000 yn mynd tuag at lansio prosiect ymchwil newydd 'Cadwedigaeth Gynhenid a Dechreuadau Trefedigaethau Planhigfeydd Lloegr yn yr Antilles Lleiaf, 1600 - 1676'. Mae'r prosiect yn ceisio i ail fewnosod pobl frodorol y Caribî yn naratifau caethwasiaeth a dangos bod nifer sylweddol ohonynt wedi cael eu defnyddio fel llafur di-dâl i yrru economi planhigfeydd trefedigaethol gynyddol Lloegr yn y cyfnod hwn Bydd y grant yn ariannu teithiau ymchwil i archifau gwerthfawr ar draws y Caribî a'r Unol Daleithiau, yn ogystal â chaniatáu ymweliad â'r planhigfeydd cynharaf y chwaraeodd tynged anhapus y bywydau Cynhenid allan ar wawr gwladychiaeth Seisnig."
Edrychwn ymlaen at weld ei waith yn datblygu.