Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru a Heddwch yn ein Haddysg
Ym mis Mawrth eleni, lansiodd y Ganolfan brosiect cydweithredol lle mae myfyrwyr cyfredol Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd, Prifysgol Bangor, wedi bod yn gweithio gyda chyfarwyddwyr y Ganolfan ac athrawon Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ac Addysg Grefyddol, i greu adnoddau addysg ar gyfer dysgwyr Cam Cynnydd 4 (Cyfnod Allweddol 3): Heddwch yn ein Haddysg. Bwriad yr adnoddau hyn yw ysgogi trafodaethau, ac i ddysgwyr adlewyrchu ar eu cymdeithas, eu cymunedau a’u bywydau eu hunain, gan ddysgu am y cyd-destunau ehangach. Beth yw heddwch? Sut mae gweld heddwch yn ein hoes? Yn ogystal â rhyfeloedd a gwrthdaro o’r fath, beth arall sy’n peryglu heddwch?
Ac ym mis Gorffennaf 2024, derbyniodd myfyrwyr israddedig a doethurol Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd, Prifysgol Bangor, sydd wedi bod yn gweithio ar y prosiect Heddwch yn ein Haddysg anrhydedd o’r mwyaf gan Academi Heddwch Cymru a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru, pan gyflwynwyd iddynt ‘Wobr Treftadaeth Heddwch’ yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Dyfernir Gwobrau Heddychwyr Ifanc yn flynyddol i ddathlu gwaith ac angerdd pobl ifanc dros weithio tuag at fyd a chymdeithas fwy heddychlon, felly roedd yn arbennig gweld y bobl ifanc a fu’n rhan o’r prosiect yma’n cael eu cydnabod am eu hymdrechion.
Meddai Dr Gareth Evans-Jones, un o gyfarwyddwyr Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru a chydlynydd Heddwch yn ein Haddysg, “Roeddem mor falch o weld y criw yn derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am eu holl waith caled. Rydw i wedi fy rhyfeddu at asbri ac angerdd bob un ohonyn nhw, ac wedi mwynhau’n fawr y broses o gydweithio i ddatblygu adnoddau ar gyfer pwnc sydd o ddirfawr bwys i bob un ohonom.”
A heddiw’n Ddiwrnod Heddwch y Cenhedloedd Unedig, priodol yw myfyrio ar yr adnoddau hyn, a chlywed safbwyntiau’r bobl sydd yn rhan o Heddwch yn ein Haddysg, felly dyma bytiau gan ddau o fyfyrwyr cyfredol Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd, Prifysgol Bangor:
Gemma Waite (BA Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd)
Haia, fy enw i yw Gemma, a dwi ar hyn o bryd yn astudio Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor gyda’r gobaith o wneud cwrs TAR i fod yn athrawes Add Gref mewn ysgol uwchradd. Dwi hefyd wedi bod yn gweithio gyda Chanolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru ar y prosiect Heddwch yn ein Haddysg i greu adnoddau ar gyfer dysgwyr CC4 (CA3) i archwilio mater heddwch ymhellach. Rydym wedi bod yn gweithio ar adnoddau sydd yn archwilio elfennau gwahanol o heddwch, gan gynnwys agweddau crefyddol, diffiniadau am fathau o heddwch a gwrthdaro, a sut i ymateb i hynny. Rydw i’n benodol wedi gweithio ar greu adnoddau am berthynas Iddewiaeth a heddwch a gwrthdaro, yn ogystal ag astudiaeth achos ar gyfer dysgwyr am Malala Yousafzai a’i chyfraniad i heddwch.
Y gobaith gyda’r adnoddau yma yw sicrhau fod gan y dysgwyr ddealltwriaeth well o heddwch, a chydnabod nad yw heddwch a gwrthdaro dim ond yn bodoli o fewn cyd-destun rhyfel. Hefyd, mae’n gyfle i ddysgu mewn amryw ffyrdd creadigol i ymateb, boed mewn ffurfiau ysgrifenedig, gweithio o fewn grwpiau, a ffyrdd eraill sydd, efallai, yn llai ffurfiol na gwersi arferol. Mi fydd nifer o’r dysgwyr wedi profi rhyw fath o wrthdaro yn eu bywydau (boed hyn yn bwlio, anghytuno gyda ffrindiau neu eu teulu), ac yn ceisio sicrhau heddwch yn dilyn hynny – a bydd dysgwyr yn cael archwilio heddwch a gwrthdaro fel hynny, yn lle dim ond trwy gyd-destun rhyfel (er bod hynny dal yn bwysig).
Dwi’n gweithio gyda’r Ganolfan ar y prosiect yma i gael profiad o greu adnoddau ar gyfer dysgwyr o wrando ar beth sydd yn apelio atyn nhw, ac ar destun sydd hefyd yn bwysig iawn i mi. Hefyd, mae gweithio gyda’r Ganolfan wedi bod yn brofiad gwych i gael, a bydd yn edrych yn dda ar fy CV wrth ymgeisio ar gyfer cwrs TAR. Dwi hefyd yn gobeithio gweithio gyda’r Ganolfan ar nifer o brosiectau eraill yn y dyfodol i sicrhau bod gan ddysgwyr addysg lawnach ar nifer fawr o bynciau gwahanol, a heddwch yn ganolog iddynt.
Richard Scott (PhD Astudiaethau Crefyddol)
Helo, fy enw i ydy Richard, dwi’n ymchwilydd PhD ym maes Astudiaethau Crefyddol, ac yn ddiweddar, rydw i wedi bod yn gweithio gyda Chanolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru ar ei phrosiect Heddwch yn ein Haddysg, sy’n anelu at greu adnoddau a gwersi i fyfyrwyr CC4 (Cyfnod Allweddol 3). Mae heddwch yn gysyniad y mae holl brif grefyddau'r byd yn ymdrechu amdano, ond eto, nid yw'n cael ei roi ar waith yn aml, ac rydyn ni wedi'n hamgylchynu gan fyd sy’n ymddangos fel nad ydyw’n gallu mynd i'r afael â realiti heddychlon, felly rydw i'n gweld hwn yn bwnc mor bwysig.
Wrth feddwl am greu adnoddau i fyfyrwyr, felly, a sut i archwilio’r cysyniadau rhyngberthynol o heddychiaeth, cymod, goddefgarwch, a gwrthdaro, roeddwn am archwilio llwybrau meddwl crefyddol sydd heb eu trafod yn fanwl, er mwyn i bobl fedru ystyried meddylfryd sy'n wahanol i'w rhai nhw a gweld sut y gallen nhw wella eu dealltwriaeth o’u hunain o gysyniadau heddwch, trais a di-drais. Felly, roeddwn i eisiau archwilio ffydd sy’n cael ei hanwybyddu’n aml, ond sy’n cynnwys llawer o harddwch a llonyddwch, sef ffydd yr un ar ddeg Gwrwaid: Siciaeth.
Dechreuodd fy niddordeb yn y grefydd hon am y tro cyntaf pan gefais argyfwng ffydd pan oeddwn i’n 16 oed, ac mi ges fy swyno’n syth gan ei gweledigaeth egalitaraidd, ynghyd ag agwedd radical tuag at roi heddwch ar waith. Yn wir, pregethodd Gwrw Nanak weledigaeth unedig, nid o dan faner grefyddol, ond yn wir, yn enw yr hil ddynol gyfan. Dywed 28ain Pauree y Japji Sahib, “Bydded ffydd yn yr Arglwydd yn ffon gerdded i chi. Gwelwch frawdoliaeth holl ddynolryw fel y radd uchaf o iogi. Ymgrymaf iddo, ymgrymaf yn ostyngedig.” Nid dim ond achlust oedd hyn ychwaith, roedd Gwrw Nanak, a’r holl Gwrwaid a ganlyn hefyd wedi ymrwymo i ddod â heddwch duwiol i’r ddynolryw i gyd trwy ymddygiad cywir, oherwydd, fel y dywedodd Nanak hefyd, “Gwirionedd yw’r rhinwedd uchaf [yn cyfateb i Dduw], ond yn uwch byth y mae bywoliaeth wirionedd."
Felly, ym mhob un o’r trefi a’r temlau, y gwrdwarâu, a sefydlwyd gan y Gwrwaid, maen nhw’n rhoi’r egwyddor sewa, neu wasanaeth, ar waith, gan gyflwyno, er enghraifft, y langar, pryd bwyd dyddiol am ddim lle byddai pobl o bob crefydd a chast yn eistedd gyda’i gilydd ac yn bwyta, er mwyn cyflwyno cytgord dynol.
Felly mae Siciaid, yn dilyn rheol Gwrw Arjan Dev, a'r Gwrwaid olaf: “Mae'r Meistr trugarog bellach wedi gorchymyn nad oes neb yn gwylltio, yn gormesu nac yn peri poen ar un arall. Bydd pawb yn cadw mewn heddwch ac mewn cyfundrefn ddiniwed”, ac yn dod i gymorth unrhyw un sy'n cael ei ormesu ac sy'n wynebu gwrthdaro. Mae’r ddwy agwedd ar heddwch a gwarchodaeth realistig i’r dirywiedig wedi’u cyfuno mewn un ffydd sy’n cael ei hanwybyddu yn y Byd Gorllewinol heddiw. Ac rydw i’n meddwl y bydd dangos ymrwymiad y Siciaid i heddwch i’r myfyrwyr yn gallu ailystyried eu syniadau ynghylch yr hyn ydi heddychiaeth, heddwch a gwrthdaro.
Heddwch yn ein Haddysg
Mae’r pecyn adnoddau wrthi’n cael ei olygu ar hyn o bryd ac yn cael ei safoni gan arbenigwyr yn y maes, ond mae croeso i athrawon a’r sawl sydd â diddordeb yn y prosiect gysylltu er mwyn dysgu mwy am y pecyn, drwy e-bostio: ncrew@bangor.ac.uk.
Rhai o’r testunau a archwilir yn y pecyn adnoddau yw:
- Diffiniadau a symbolau.
- Crefydd a heddwch: Cristnogaeth, Bwdhaeth, Iddewiaeth, Siciaeth, Islam, Jediiaeth.
- Yr amgylchedd, gwleidyddiaeth a heddwch.
- Gwrthdaro mewnol.
- Heddwch a gwrthdaro lleol: bwlio.
- Rhyfel a heddwch.
- Ffigyrau nodedig.
- Enghreifftiau Cymreig megis Henry Richards, yr ‘Apostol Heddwch’ a Deiseb Heddwch y Merched (1923-1924).