Farrel & Co.

Izzabelle Perrett yn mynychu digwyddiad ysbrydoledig

Gwahoddwyd Izzabelle Perret, sydd yn ei blwyddyn olaf ond un o’i gradd LLB yn y Gyfraith, yn ddiweddar i ddigwyddiad arbennig a gynhaliwyd gan gwmni cyfreithwyr, Farrer & Co, sef Amrywiaeth yn y Gyfraith. Roedd y digwyddiad wedi’i deilwra i’r rhai sy’n perthyn i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan ganolbwyntio ar symudedd cymdeithasol ac amrywiaeth ethnig, gan roi’r cyfle i fynychwyr fod ar y llwybr carlam i sicrhau gyrfa o fewn y 100 cwmni cyfreithiol gorau.