Lansiad y Pecyn Recriwtio Gweithlu Dwyieithog
Ar y 29ain o Dachwedd, daeth tua 100 o gyflogwyr ac ymarferwyr o bob cwr o Gymru ynghyd yn Neuadd Reichel ar gyfer lansiad y Pecyn Recriwtio Gweithlu Dwyieithog, canlyniad gwaith gan dîm o Ysgol Hanes, y Gyfraith, a'r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor. Cafodd y prosiect hwn ei ariannu gan Gronfa Her ARFOR Llywodraeth Cymru. Nod y Pecyn yw helpu cyflogwyr i ddod o hyd i atebion i heriau sy'n ymwneud â recriwtio siaradwyr Cymraeg, gan alluogi mwy o oedolion ifanc sy'n dymuno aros yn eu cymunedau lleol i wneud hynny.
"Canfu ein hymchwil fod llawer o gyflogwyr yng ngorllewin Cymru yn ei chael yn anodd recriwtio staff sy'n gallu gweithio yn Gymraeg ac yn Saesneg, er bod y cymunedau hyn yn cynnwys dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg. Cyfwelyddom 40 o gyflogwyr i ddysgu am eu profiadau o recriwtio staff sy'n gallu siarad Cymraeg. Roeddem yn arbennig o awyddus i ddysgu gan gyflogwyr pa arferion da yr oeddent wedi'u mabwysiadu wrth geisio recriwtio'n fwy effeithiol," meddai Elen Bonner, a fu'n gweithio fel ymchwilydd ar y prosiect.
Agorwyd y digwyddiad lansio gan Ddirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Osian Llywelyn, ac roedd yn cynnwys trafodaethau bywiog ar baneli gyda phobl ifanc, cyflogwyr, ac academyddion o Brifysgol Bangor a Gwlad y Basg. "Roedd yn wych gallu croesawu cydweithwyr o Wlad y Basg i'r digwyddiad a dysgu am y gwaith a wneir yn EMUN a Phrifysgol Mondragon," meddai'r Dr Rhian Hodges.
"Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn y digwyddiad, gan adlewyrchu'r diddordeb mawr yn y gwaith hwn a'r her sylweddol o recriwtio gweithlu dwyieithog i lawer o gyflogwyr. Roedd hefyd yn ysbrydoledig clywed profiadau'r panelwyr amrywiol. Ar ran y tîm, hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at y prosiect hwn ac a fynychodd y lansiad. Gobeithiwn y bydd y pecyn hwn yn arf defnyddiol i gyflogwyr wrth iddynt geisio recriwtio staff sy'n siarad Cymraeg," meddai'r Dr Cynog Prys, Uwch-ddarlithydd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, ac arweinydd y prosiect.
Gellir cael mynediad at yr adnoddau newydd drwy'r dolenni isod, a gallant fod o ddiddordeb i gymunedau iaith lleiafrifol eraill.