Nod y project, a ariennir gan Gronfa Her ARFOR Llywodraeth Cymru, yw cynorthwyo cyflogwyr i fynd i'r afael â heriau sy'n gysylltiedig â recriwtio siaradwyr Cymraeg, a thrwy hynny gefnogi oedolion ifanc sy'n dymuno aros yn eu cymunedau lleol.
Dywedodd Elen Bonner, ymchwilydd ar y project, "Datgelodd ein hymchwil fod llawer o gyflogwyr yng ngorllewin Cymru’n wynebu anawsterau wrth recriwtio staff sy’n hyfedr yn y Gymraeg a'r Saesneg, er gwaethaf dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg yn yr ardaloedd hyn. Gwnaethom gynnal cyfweliadau â 40 o gyflogwyr i ddeall eu profiadau a nodi arferion effeithiol ar gyfer recriwtio staff dwyieithog."



Roedd y digwyddiad, a agorwyd gan Ddirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, Osian Llywelyn, yn cynnwys paneli trafod bywiog gydag oedolion ifanc, cyflogwyr ac academyddion o Brifysgol Bangor ac o Wlad y Basg.
Dywedodd Dr Rhian Hodges, sy’n Uwch-ddarlithydd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, "Roedd yn wych croesawu cydweithwyr o Wlad y Basg i'r digwyddiad a dysgu am y gwaith a wnaed yn EMUN, sef sefydliad sy'n helpu cwmnïau gyda hyfforddiant iaith Fasgeg, ac ym Mhrifysgol Mondragon."
Dywedodd Dr Cynog Prys, sy’n Uwch Ddarlithydd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, ac arweinydd y project, "Roedd y nifer a fynychodd y digwyddiad yn adlewyrchu'r lefel uchel o ddiddordeb yn y gwaith hwn a'r her sylweddol o recriwtio gweithlu dwyieithog. Roedd yn ysbrydoledig clywed profiadau’r panelwyr amrywiol, ac rwy'n diolch i bawb a gyfrannodd at y project hwn ac a fynychodd y lansiad. Rydym yn gobeithio y bydd y pecyn yn adnodd gwerthfawr i gyflogwyr wrth iddynt geisio recriwtio staff Cymraeg."
Mae’r Pecyn Recriwtio Gweithlu Dwyieithog ar gael drwy'r dolenni isod a gall hefyd fod o fudd i gymunedau iaith lleiafrifedig eraill: