Mary Gladys Thoday (nee Sykes) MA. (1884-1943)
Yn ystod penwythnos aduniad diweddar y cyn-fyfyrwyr, dadorchuddiwyd portread dwbl o’r botanegwyr arloesol, yr Athro David Thoday a Gladys Thoday, yn Ystafell y Cyngor.
Roedd yn bosib comisiynu’r portread hwn, a baentiwyd gan yr artist o Gymru, Meinir Mathias, diolch i rodd hael drwy Gronfa Celfyddydau Cain Cymreig a Cheltaidd David T
Jones, a hwyluswyd gan y Swyddfa Datblygu a Chyn-fyfyrwyr. Daeth wyrion y Thodays i’r dadorchuddio.
Astudiodd yr Athro David Thoday, a oedd yn wreiddiol o Ddyfnaint, yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt yn 1902, lle canolbwyntiodd ar fotaneg. Roedd ei gyflawniadau nodedig yn cynnwys ennill Ysgoloriaeth Frank Smart ac Efrydiaeth Mackinnon y Gymdeithas Frenhinol. Gwasanaethodd hefyd fel Arddangoswr Prifysgol mewn Botaneg ac fel llywydd y Marshall Ward Society.
Ganed Gladys Thoday, Sykes gynt, yng Nghaer a rhagorodd yn academaidd yng Nghaergrawnt, gan ennill anrhydedd dosbarth cyntaf yn y Tripos Gwyddorau Naturiol. Parhaodd â’i hymchwil mewn botaneg fel myfyriwr yn Bathurst ac yn ddiweddarach, fel cymrawd ymchwil yng Ngholeg Newnham. Yn 1910, priododd David a Gladys, gan nodi dechrau eu taith academaidd gydweithredol.
Mae Dr Dinah B. M. Evans o’r Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas wedi ymchwilio’n fanwl i fywyd a gyrfa Mary Gladys Thoday, a dyma drafodaeth oleuedig ganddi:
Deuthum ar draws Gladys Thoday am y tro cyntaf rhyw dair blynedd yn ôl pan oedd Shan Robinson (o Gasgliadau Arbennig) a minnau yn paratoi Taith Treftadaeth (ar gyfer Archif Menywod Cymru) trwy Fangor Uchaf yn nodi cartrefi a hanesion rhai o'r menywod anhygoel a oedd wedi byw yno ers sefydlu'r brifysgol.
Dechreuais fy ymchwil yn Archif y Brifysgol gyda phapurau Cyngor Heddwch Menywod Gogledd Cymru ac yno y cyfarfûm â Gladys Thoday. Tan hynny, roedd yr enw Thoday yn hysbys i mi yn unig fel enw'r adeilad gwyddoniaeth a enwyd er anrhydedd i'r Athro David Thoday, gŵr Gladys.
Ar ôl darllen digon o bapurau'r Cyngor Heddwch, sylweddolais fod Gladys yn ddynes a oedd wedi cyflawni’n uchel, ac roedd yn fy mlino i ddarganfod ei bod yn ymddangos fel pe bai wedi diflannu’n llwyr o ymwybyddiaeth boblogaidd. Nid oedd neb yn gwybod pwy oedd hi, yn wir, ymddengys mai'r rhagdybiaeth oedd mai 'gwraig prifysgol' oedd hi, ac roedd hyd yn oed ei thystysgrif marwolaeth yn ei disgrifio fel 'gwraig' yr Athro David Thoday. Roedd yn rhaid i mi wybod mwy, yn enwedig, pan wneis i ddarganfod fod ei phapurau wedi eu rhoi i’r Archif yma ar ôl iddi farw yn 1943.
Ni chefais fy siomi! Mae papurau Gladys yn destament i fenyw academaidd sydd, ar bob cam o'i bywyd, wedi herio cymdeithas o safbwynt ysgolheigaidd iawn. Ganwyd yng Nghaer yn 1884 i frocer cotwm da ei wneud, John Thorley Sykes, ac roedd ei gyrfa yn rhychwantu blynyddoedd yn y byd academaidd ac ymchwil wyddonol, mudiad y bleidlais a gwleidyddiaeth De Affrica, heb sôn am wleidyddiaeth heddwch ym Mhrydain yn y 1930au.
Roedd Gladys wedi mynd i Goleg Girton, Caergrawnt pan oedd hi'n 18 oed, Roedd hi'n fotanegydd ac yn rhagori yn ei hastudiaethau yno cyn gwneud ymchwil ôl-raddedig yng Ngholeg Newnham, Caergrawnt ac ennill MA. Roedd hi'n awdur toreithiog o bapurau gwyddonol mewn cyfnodolion a adolygwyd gan gymheiriaid a ysgrifennwyd pan oedd i fyny yng Nghaergrawnt, yn Royal Holloway Prifysgol Llundain yn ogystal ag ym Mhrifysgol Manceinion lle roedd hi a David Thoday wedi'u lleoli ar ôl eu priodas ym 1911. Pan oedd David Thoday wedi ymgymryd â'r swydd fel darlithydd mewn ffisioleg planhigion ym Mhrifysgol Manceinion, penododd y brifysgol Gladys yn Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd lle bu'n gweithio gyda'r Athro Weiss am bron i wyth mlynedd, gan gyfrannu at raglen ymchwil yr adran yn ogystal â'r addysgu.
Mae'n amlwg o'm hymchwil fod Gladys yn uchel ei chyflawniadau academaidd. Dangosodd ei thystysgrif briodas yn 1910 ei galwedigaeth fel 'Cymrawd Coleg Newnham Caergrawnt' a'r flwyddyn ganlynol, pan oedd Gladys yn wraig ac yn fam newydd, nododd Cyfrifiad 1911 fod Gladys yn 'Gymrawd a Darlithydd mewn Botaneg' yng Ngholeg Newnham, Caergrawnt. Yn wir, trwy gydol ei bywyd, llofnodwyd holl ohebiaeth Gladys, 'M.G. Thoday MA'.
Yn ogystal â'i gwaith academaidd a chael babis, roedd Gladys hefyd yn cymryd rhan weithredol yn achos pleidlais menywod ym Manceinion, fel aelod o Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau Pleidlais i Fenywod. Felly, pan dderbyniodd David Thoday Gadair Botaneg Harry Bolus yn Cape Town, De Affrica, ymunodd Gladys a'i thri mab ag ef yno. Parhaodd Gladys â'r frwydr dros bleidlais i fenywod yn Ne Affrica ac roedd yn un o grŵp o fenywod a gyfarfododd y Prif Weinidog, Jan Smuts, a’i herio yn uniongyrchol ar y mater. Diddordebau gwleidyddol ar wahân, yn ystod ei blynyddoedd yn Ne Affrica parhaodd Gladys â'i hymchwil fotanegol ei hun, gan deithio'n helaeth yn ac o amgylch De Affrica a hefyd drwy gwblhau, ar gais yr Athro Seward o Brifysgol Caergrawnt, y gwaith anorffenedig ar Gnetales gan y diweddar Prof. H.H.W. Pearson. Am weddill ei hoes, parhaodd Gladys i ymwneud â'r materion yr oedd wedi ymrwymo iddynt tra yn Affrica sef cwestiwn o ryddid menywod yn Ne Affrica, yn ogystal â chyflwr ac addysg y boblogaeth frodorol. Roedd hefyd yn poeni'n fawr am yr arfer o anffurfio organau cenhedlu benywod yn Affrica.
Yn 1923, ar ôl derbyn cadair Botaneg ym Mangor, symudodd David ei deulu i ogledd Cymru lle roeddent yn byw ym mhentref cyfagos Llanfairfechan. Yn dal yn ymchwilydd gwyddonol brwd penodwyd Gladys yn ddarlithydd anrhydeddus yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Fodd bynnag, y blynyddoedd rhwng y rhyfeloedd hyn hefyd oedd yr adeg pan oedd pryder cynyddol dros heddwch yn Ewrop a daeth Gladys i ymwneud yn ddwfn â'r achos dros heddwch. Yn 1926 trefnodd Cynghrair Rhyngwladol y Merched dros Heddwch a Rhyddid bererindod heddwch. Aeth menywod o wahanol rannau o Brydain i lawr i gyfarfod mewn rali yn Hyde Park yn Llundain. Roedd Gladys yn un o arweinwyr mintai gogledd Cymru ac fe wnaeth hi hefyd annerch y rali. Roedd ei haelodaeth o sefydliadau heddychol a gwrth-ryfel yn drawiadol. Dros y blynyddoedd teithiodd yn eang gartref ac ar draws Ewrop yn mynychu cynadleddau heddwch, gan geisio perswadio llywodraethau i barhau i wthio am ddiarfogi.
Wrth i'r rhyfel ddod yn nes byth, symudodd y Thodayaid o'u cartref yn Llanfairfechan, i fyw yn ninas Bangor ei hun a chroesawodd ffoaduriaid o Ewrop Natsïaidd i fyw yn eu tŷ yn Llanfairfechan, am llawer o flynyddoedd. Bu farw Gladys yn Haulfre, ei chartref ym Mangor, ar 9 Awst 1943. Roedd hi'n 59 oed.
Wrth i mi ddarganfod mwy a mwy am Gladys a'i chyflawniadau, a gwybod am ddiddordeb yr Athro Oliver Turnbull mewn codi proffil academyddion benywaidd blaenorol yn y Brifysgol, cysylltais ag ef a chyflwyno'r achos dros gydnabod Gladys Thoday gan y Brifysgol, i ddechrau drwy osod llun ohoni yn adeilad Thoday, gyda un o'i gŵr. Fodd bynnag, rhoddodd yr Athro Turnbull achos Gladys gerbron yr Is-Ganghellor, yr Athro Burke, a phenderfynwyd comisiynu darlun o Gladys a'i gŵr, David. Dadorchuddiwyd y darlun yn ddiweddar ac ar hyn o bryd mae'n hongian yn Siambr Cyngor y Brifysgol.
Am fwy o fanylion am Gladys Thoday (nee Sykes) gweler fy mhapur ar safle we Archif Menywod Cymru a chofnod am Gladys yn y Bywgraffiadur Cymreig.
Dinah B. M. Evans