Gan dynnu ar naratifau gan ffigurau sefydlu cangen y DU, mae Dr Wali yn ymchwilio i wreiddiau'r grŵp, ei dwf, a'i ddirywiad yn y pen draw. Mae’r llyfr yn rhoi presenoldeb Hizb ut-Tahrir yn y DU yn ei gyd-destun o fewn natur ehangach, fyd-eang y sefydliad, gan amlygu sut y daeth i wreiddio’n gyflym ymhlith y gymuned Fwslimaidd Brydeinig.
Mae'r cyhoeddiad hwn yn rhan o Gyfres Palgrave mewn Diwinyddiaeth, Cyfraith, a Hanes Islamaidd (Islamic Theology, Law, and History: ITLH) ac mae'n cynnig mewnwelediad gwerthfawr i ddeinameg ac effaith Hizb ut-Tahrir o fewn cymdeithas Fwslimaidd y DU. Trwy archwilio trywydd y grŵp, mae Dr Wali yn cyfrannu at ddealltwriaeth o'r ffactorau cymhleth a luniodd ei ddylanwad a'r rhesymau dros ei gwymp yn y pen draw.