Mae gweithio'n agos gyda sefydliad o’r fath i ddatblygu dealltwriaeth o'r broses hyfforddi ar gyfer recriwtiaid newydd i HGC yn gyfle ymgysylltu mor arwyddocaol sydd gennym ym Mangor. Nid yn unig y mae'n caniatáu i fyfyrwyr adeiladu ar eu dealltwriaeth o rôl cwnstabliaid plismona, mae hefyd yn eu galluogi i ddatblygu perthynas gwaith a phroffesiynol gref â HGC.
Aeth Ms Lisa Sparkes, sy’n dysgu ar y graddau Troseddeg a Phlismona, gyda’r myfyrwyr, a dywedodd, “Roedd yn wych gweld ein myfyrwyr yn cael profiad ymarferol gyda HGC, er mwyn deal natur yr hyfforddiant a hefyd beth sy’n wynebu cwnstabliaid plismona yn eu bywydau gwaith beunyddiol.”