Prosiect Erasmws + Empyre
Cyfarfu partneriaid prosiect Erasmws + Empyre ym Mangor o’r 14eg i’r 17eg o Fawrth i gynllunio gweithdy ar gyfer 12 myfyriwr am ymarfer gwaith ieuenctid arloesol yn y Ffindir ym mis Ebrill. Mae ein partneriaid yn cynnwys prifysgolion ac asiantau gwaith ieuenctid o bedair gwlad Ewropeaidd. Gisda, sy’n cefnogi pobl ifanc ddigartref yw ein partner asiant lleol.
Myfyrwyr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas a fydd yn mynychu’r gweithdy yn y Ffindir yw:
- Lakeisha Evans – Polisi Cymdeithasol ac Astudiaethau Plentyndod.
- Sarah Smith – Cymdeithaseg.
- Stephanie Emes – Athroniaeth a Chrefydd.
- Rebecca Loutchina-Myndiuk – Y Gyfraith.
- Alice Beattie – Y Gyfraith a Throseddeg.
- Alice Buckton-Perkins – Hanes.
Bydd y gweithdy yn archwilio themâu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysoldeb. Bydd myfyrwyr Bangor yn gweithio’n agos â myfyrwyr o’r Ffindir, Gwlad Pŵyl ac Awstria
Yn ystod yr ymweliad â Bangor, ymwelodd ein partneriaid â swyddfeydd Gisda a hostel yng Nghaernarfon a chyfarfod rhai o’r bobl ifanc sy’n aros yn yr hostel.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â phrosiect Erasmus + Empyre, cysylltwch â Dr Hefin Gwilym h.gwilym@bangor.ac.uk, Darlithydd Polisi Cymdeithasol.