Sgwrs ysbrydoledig gyda’r Parch. Sarah Jones
Er mwyn dathlus Mis Hanes LHDTC+, cynhaliodd Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd, mewn perthynas â Chanolfan Addysg Grefyddol Cymru sgwrs gyda’r Parch. Sarah Jones, y person cyntaf i gael eu hordeinio yn Eglwys Loegr.
Cynhaliwyd y drafodaeth hon ar-lein nos Lun, 26ain o Chwefror, gyda nifer dda wedi mynychu wrth i Dr Gareth Evans-Jones, darlithydd Athroniaeth a Chrefydd a chyd-gyfarwyddwr Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru, gyfweld â’r Parch. Sarah Jones.
Trafododd y Parch. Jones wi gwaith a’i hamryw brosiectau, cyn ystyried y berthynas rhwng bod yn draws ac yn aelod a ordeiniwyd yn yr Eglwys. Roedd y Parch. Jones yn agored iawn gyda’i stori a’i safbwyntiau am gynwysoldeb ac amrywiaeth yn ein cymdeithas Heddiw. Derbyniwyd y sgwrs yn gynnes a gofynnodd amryw o’r mynychwyr sawl cwestiwn hynod ddiddorol. Yn wir, gallai’r digwyddiad fod wedi parhau am awr arall o leiaf.
Wrth fwrw golwg ar y digwyddiad, dywedodd Dr Evans-Jones, ‘Roedd hwn yn gyfle arwyddocaol i glywed y Parchedig Sarah Jones yn rhannu ei stori ei hun ynghyd â’i safbwyntiau ar amrediad o agweddau sy’n amlwg yn ein cymdeithas Heddiw. Rydym ni, yn adran Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd, ac yng Nghanolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru yn hynod ddiolchgar i Sarah am roi o’i hamser i sgwrsio; felly hefyd i bawb a fynychodd.’