
Bu Dr Christoph Renning, a oedd yn Farnwr Llywyddol yn yr Uchel Lys yn Frankfurt, ac sydd bellach yn Ombwdsmon yng Nghymdeithas Banciau Cyhoeddus yr Almaen, ar ymweliad ag Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithasol yn ddiweddar. Daeth i drafod prosiect ymchwil ar y cyd ar lysoedd troseddol isaf yr Almaen gyda'r Athro Stefan Machura (Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol). Ariennir y prosiect gan Sefydliad Fritz Thyssen ac mae’n ymchwilio i bynciau fel y canfyddiad o gyfiawnder dyfarniadau, tegwch canfyddedig treialon i ddioddefwyr a diffynyddion a materion eraill sydd yr un mor berthnasol i lysoedd yng Nghymru a Lloegr. Nod y prosiect yw cynhyrchu syniadau diwygio a fydd yn gwella gwaith y llysoedd. Bydd barnwyr lleyg a phroffesiynol yn datgan eu profiadau ac yn nodi syniadau ar gyfer polisïau ac arferion gwell. Mae cwmpas yr astudiaeth yn cynnwys llysoedd troseddol ieuenctid ac oedolion.
Dywedodd yr Athro Machura: "Er ein bod yn canolbwyntio ar esiampl llysoedd yr Almaen yn y Land Hesse, bydd prif ganlyniadau'r astudiaeth hon yn dod o hyd i gymhwysedd a darllenwyr yn rhyngwladol."
Yn y llun (o'r chwith i'r dde): Dr Yundong Luo (swyddog prosiect), yr Athro Stefan Machura (prif ymchwilydd), Dr Christoph Rennig (cyd-ymchwilydd).