
Teitl papur yr Athro Huskinson a gyflwynir ym mis Mawrth 2025 fydd, 'Mordwyo Egoau Academaidd a Gofodau Therapiwtig'.
Wrth sôn am anrhydedd y gwahoddiad hwn, dywedodd yr Athro Huskinson:
"Mae'n braf cael cydnabyddiaeth i'm gwaith fel hyn a chael y cyfle gwych i gyflwyno Darlith C.G. Jung ar gyfer cydweithwyr a myfyrwyr uchel eu parch yn y maes. Mae fy ymchwil wedi tueddu i osgilio rhwng cymwysiadau athroniaeth Nietzscheaidd a seicdreiddiad/seicoleg Jungaidd, ac ar ôl cyfnod hir a ffrwythlon gyda Nietzsche a phensaernïaeth, rwy'n synhwyro eto efallai mai'r seicolegydd yw fy ngwaith!"
Ychwanegodd yr Athro Peter Shapely, Pennaeth Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas:
"Rydym wedi'n gwefreiddio'n fawr gan gyflawniad eithriadol Lucy. Mae cael ei gwahodd i draddodi Darlith flynyddol fawreddog C.G. Jung yn dyst i drylwyredd deallusol ei hymchwil a'i phroffil byd-eang trawiadol. Mae Lucy wedi bod ar flaen y gad ym meysydd athroniaeth Nietzscheaidd a seicoleg Jungaidd, gyda'i chyhoeddiadau wedi'u cyfieithu i ieithoedd niferus a gwahoddiadau cyson i gyflwyno papurau cyweirnod mewn cynadleddau rhyngwladol".
Da iawn, yr Athro Huskinson, a phob dymuniad da gyda'r ddarlith!