Yr Athro Lucy Huskinson, Seicdreiddiad a Phensaernïaeth
Mae'r Athro Lucy Huskinson newydd gyhoeddi erthygl athronyddol hynod arwyddocaol ar bensaernïaeth a seicdreiddiad yn y cyfnodolyn rhyngwladol, a gyd-adolygir, Inscriptions.
Gellir canfod y papur, ‘Questioning the dualities of psychoanalysis and architecture: mediating our connection to the material world’ yn Inscriptions, cyfrol 7 (1), ac mae’n ddatblygiad o araith gyweirnod Lucy yn y gynhadledd ryngwladol, Beyond Dualism—Philosophy, Religion, Science a gynhaliwyd yn yr haf y llynedd yn Gdynia, Gwlad Pwyl. Noddwyd y digwyddiad gan Ganolfan Athroniaeth a’r Celfyddydau Ereignis Gwlad Pwyl a Norwy, a’r araith gyweirnod oedd uchafbwynt y gynhadledd i amryw fynychwyr.
Mae canol dinas Gdynia yn enwog am ei bensaernïaeth fodernaidd gydag amryw adeiladau wedi eu cynllunio i ymddangos fel llongau er mwyn adleyrchu statws Gdynia fel dinas forwrol amlwg. Roedd thema papur darlith gyweirnod Lucy, felly, yn hynod briodol. Ac isod, fe welir ffotograff o adeilad yn Gdynia sy’n rhoi blas o’r bensaernïaeth fodernaidd sydd i’w gweld yn y ddinas.