Nod y Siarter Athena Swan, a lansiwyd yn 2005, oedd hyrwyddo gyrfaoedd menywod ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM) o fewn addysg uwch. Ers hynny, mae wedi ehangu ei ffocws i gynnwys yr holl adrannau academaidd a gwasanaethau proffesiynol, gan feithrin cynwysoldeb ar gyfer unigolion o bob rhyw a chan fynd i’r afael ag anghydraddoldebau croestoriadol.
Mae’r Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas yn y broses o sefydlu Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Chynaliadwyedd (EDIS) i wthio mentrau cydraddoldeb pellach ymlaen o fewn yr Ysgol a fydd yn cynrychioli staff a myfyrwyr. Mae'r ymrwymiad i gydraddoldeb yn fwy na chydraddoldeb rhywedd yn unig, mae'n groestoriadol ei gwmpas (o ran dosbarth, rhywedd, hil, anabledd, diwylliant) ac mae hefyd yn ymestyn i faterion cynaliadwyedd diwylliannol ac amgylcheddol.
Dywedodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Peter Shapely: “Mae ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i’n hymchwil a’n haddysgu yma yn yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas. Mae'r wobr hon yn atgyfnerthu ein hymroddiad parhaus i wreiddio'r gwerthoedd hyn ymhlith staff a myfyrwyr yr Ysgol; mae’n ymwneud â gwreiddio’r gwerthoedd hyn yn niwylliant yr Ysgol a’n bod yn mynd y tu hwnt i ryw ac ethnigrwydd i fod yn wirioneddol hollgynhwysol. Estynnwn ein diolch i’r holl staff am eu hymroddiad i’r broses ymgeisio, gyda chydnabyddiaeth arbennig i aelodau’r Tîm Hunanasesu ac i Dr Corinna Patterson yn arbennig, a arweiniodd ar y cais hwn”.
Rydym yn falch iawn o glywed syniadau staff a myfyrwyr.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Arweinydd EDIS yr Ysgol, Dr Corinna Patterson: c.patterson@bangor.ac.uk