Bydd ymchwil Beca yn canolbwyntio ar y modd y mae Deallusrwydd Artiffisial yn cael ei ddefnyddio o fewn y system addysg Gymraeg. Bydd yn dadansoddi sut y mae disgyblion ysgol a myfyrwyr yn ei ddefnyddio, a’r ffordd y mae athrawon a darlithwyr yn ei ddefnyddio yn eu gwaith.
Roedd Beca ar ben ei digon o dderbyn yr ysgoloraieth, fel y dywedodd:
"Diolch i'r ysgoloriaeth hon gan y Coleg Cymraeg, byddaf yn gallu parhau â'm diddordebau i'r maes astudio hwn, a gobeithio, yn y pen draw, bydd yr ymchwil i ddeallusrwydd artiffisial o fudd i'r iaith Gymraeg mewn byd cynyddol dechnolegol. Rwy'n edrych ymlaen yn arw at gael cychwyn ar y ddoethuriaeth hon, ac yn edrych ymlaen at gael parhau i weithio gyda Cynog a Rhian."
Wrth ymateb i’r newyddion da, dywedodd Dr Cynog Prys, a fydd yn un o gyfarwyddwyr proesiect Beca:
“Rydym yn hynod falch o dderbyn yr ysgoloriaeth hon gan y Coleg Cymraeg. Ein bwriad yw edrych ar sut mae dyfodiad deallusrwydd artiffisial am gael dylanwad mawr ar sector addysg a’r byd gwaith. Mae’n hynod bwysig ein bod ni’n deall y modd y mae hyn yn mynd i effeithio ar addysg iaith Gymraeg a dwyieithog yng Nghymru. Mae’r ysgoloriaeth yma yn mynd i alluogi ni i gynnal astudiaeth dwys i’r maes cyffroes hwn. Rydym hefyd yn falch iawn o fod efo Beca fel deiliaid yr ysgoloriaeth. Roedd Beca yn fyfyriwr israddedig cymdeithaseg yn y brifysgol, ac wedi astudio’r pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd hi’n fyfyriwr gwych ac rydym yn edrych ymlaen i weld hi’n parhau gyda eu hastudiaethau, yn enwedig gan ei fod mewn maes mor gyffroes.”
Go dda, Beca!