Mae Canolfan Astudiaethau Pentecostaidd a Charismataidd Prifysgol Bangor yn Ganolfan academaidd arloesol ac adeiladol sy'n cynnig cyfle i oruchwylio PhD ar draws y disgyblaethau diwinyddol fel y maent yn ymwneud â'r Mudiadau Pentecostaidd a Charismataidd, mudiadau sydd bellach yn cynnwys tua 600,000,000 o gyfranogwyr yn fyd-eang. Mae'r Ganolfan yn rhoi cyfle i weithio gyda nifer o'r ysgolheigion blaenllaw yn y traddodiad(au), a dynnwyd o amrywiaeth o sefydliadau addysgol sy'n cynnig goruchwyliaeth mewn Diwinyddiaeth Bentecostaidd a Charismataidd wedi'i ddiffinio'n eang - astudiaethau Beiblaidd, astudiaethau diwinyddol, astudiaethau hanesyddol, hermeniwteg a diwinyddiaeth ymarferol. Mae ehangder a dyfnder gwybodaeth y staff yn sicrhau cyfle i weithio gydag ysgolheigion o safon a bri rhyngwladol. Mae'r cyfle i weithio gyda'r ysgolheigion sefydledig hyn a chyd-fyfyrwyr ymchwil PhD yn gwneud y Ganolfan yn un cyffrous a chreadigol i ysgrifennu traethawd PhD ynddi.