(Ar agor o'r 4ydd o Dachwedd 2024)
Am y cynllun
Mae aberthu cyflog yn gynllun poblogaidd a hawdd i alluogi unigolion i yrru car newydd sbon.
Rydym yn gweithio efo Tusker, i’ch helpu i ddod o hyd i gar newydd tra’n elwa ar arbedion ar eich treth incwm ac Yswiriant Gwladol.
Sut mae'n gweithio
Mae swm misol yn cael ei gymryd yn uniongyrchol o’ch cyflog gros (cyn treth ac Yswiriant Gwladol) i’ch galluogi chi i gael car newydd sbon, heb fod angen talu blaendal. Mae eich swm gros yn aros yn sefydlog am hyd eich cytundeb yn golygu nad oes unrhyw beth annisgwyl ac yn gwneud chyllidebu yn haws.
Mae'r cynllun yn cynnwys llawer mwy na'r car. Mae eich swm misol hefyd yn talu am ac yn cynnwys:
- Yswiriant
- Cynnal a chadw
- Teiars
- MOT
- Pwynt gwefru cartref gyda gosodiad safonol gyda cheir trydan a cheir hybrid plug-in*
- Treth ffordd
- Cymorth ymyl ffordd a mwy
Er y bydd angen i chi dalu cost Budd-dal mewn Nwyddau, mae'r Llywodraeth wedi cytuno i gadw'r cyfraddau hyn yn isel ar gyfer cerbydau trydan fel rhan o’r ymgyrch amgylcheddol ehangach i leihau allyriadau. Mae’r cyfraddau’n cael eu cadw ar 2% tan fis Ebrill 2025, ac yn cynyddu 1% bob blwyddyn tan fis Ebrill 2028.
Cael dyfynbris
I gael dyfynbris a gweld yr amrywiaeth o geir sydd ar gael, mewngofnodwch i'ch cyfrif Vivup (linc isod) yna dewiswch y Cynllun car i greu cyfrif a chael mynediad at y cynllun.
Os hoffech siarad â Tusker am archebu car neu os oes angen rhywfaint o help arnoch gyda'r safle, gallwch gysylltu â hwy:
- Ffôn: 0333 400 7431
- E-bost: EETeam@tuskerdirect.com
Ychydig am Tusker
Tusker yw arweinydd y DU ym maes ceir aberthu cyflog. Mae Tusker wedi bod yn sefydliad carbon niwtral ers dros 10 mlynedd ac mae’n un o aelodau sefydlu’r EV100, grŵp o sefydliadau sy’n hyrwyddo’r symudiad i allyriadau sero.