Mae gan y Sefydliad Ffisioleg Ddynol Gymhwysol bedair thema ymchwil:
Meddygaeth Ataliol ac Adsefydlu
Pobl a’r Amgylchedd
Chwaraeon a Pherfformiad Dynol
Ffisioleg a Thechnoleg
Rydym yn ymchwilio i’r themâu hyn gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i astudio ymatebion ymddygiadol a newidiadau integreiddiol mewn ffisioleg niwral, endocrinaidd, metabolaidd, arennol, cardiofasgwlaidd a resbiradol i ymarfer corff, afiechyd a'r amgylchedd. Mae ein gwaith yn drosglwyddadwy ac yn cael ei yrru gan effaith, ac yn cynnwys y sylfaenol a’r cymhwysol, gan gynnwys ymchwil profi egwyddor ac ymchwil achos ac effaith esboniadol, treialon clinigol, a datblygu a gwerthuso ymyriadau ac ymarfer newydd.