Adleisiau'r Dyfodol: Lansio Blodeugerdd y Myfyrwyr a Gwobr Lenyddol R.S. Thomas
Mae awduron newydd MA Ysgrifennu Creadigol (Saesneg) Prifysgol Bangor yn falch o’ch gwahodd i lansiad blodeugerdd a olygwyd gan y myfyrwyr, echo ECHO echo, casgliad o farddoniaeth a rhyddiaith sy’n ymdrin â phynciau megis infertebratau a symffonïau, tofu ac aberth.
Bydd y lansiad yn dathlu’r gwaith cyffrous hwn yn ei holl agweddau, gyda darlleniadau gan nifer o’r cyfranwyr. Bydd nifer cyfyngedig o gopïau rhad ac am ddim o echo ECHO echo ar gael ar y noson.
Bydd y noson hefyd yn dathlu Gwobr Lenyddol gyntaf R.S. Thomas, a noddir gan Sefydliad H'mm er cof am un o feirdd mwyaf Cymru, ac a roddir am Draethawd Hir MA Ysgrifennu Creadigol (Saesneg) gorau 2023.
Mae croeso mawr i bawb i’r digwyddiad arbennig hwn, a gynhelir trwy gyfrwng y Saesneg.