Gwenan Gibbard (Prifysgol Bangor)
Mae ardal Llŷn ac Eifionydd yn gyforiog o draddodiadau cerddorol a llenyddol, lle mae diwylliant ac arferion y tir a’r môr yn cyfarfod ac yn ymdoddi i’w gilydd. Ganrif a mwy yn ôl byddai mwyafrif helaeth trigolion yr ardal hon yn uniaith Gymraeg a chanu a barddoni yn weithgarwch ac yn adloniant cymdeithasol mewn byd lle roedd pwyslais ar ddod ynghŷd a chadw’r cwlwm hwnnw rhwng pobl â’i gilydd. Roedd yr arfer o fynegi holl droeon bywyd drwy gerdd a chân yn ffordd o fyw.
Gan gymeryd arweiniad ac ysbrydoliaeth o archif helaeth a gwerthfawr Dr Meredydd Evans a Phyllis Kinney yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, daeth sawl cân a chasgliad anghyfarwydd ac anghyhoeddedig i’r golwg o blith casgliadau cantorion a chasgwlyr megis R H Evans, Shân Emlyn, Daniel Evans a Robert Jones ‘Dwyfor’. Arweiniodd yr archif hefyd at sawl trywydd newydd ac at gasgliadau personol a theuluol Gwilym Jones (‘Gwilym y Rhos’, Rhoshirwaen) a Thomas Rowlands (Pencaenewydd). Yn ddrych i gymdeithas glos cefn gwlad diwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, mae’r caneuon yn llawn hanes lleol, yn ymdrin â serch a hiraeth, twyll a cholled, hwyl a diddanwch, gan gofnodi digwyddiadau o bwys ym myd gwleidyddiaeth, amaethyddiaeth, y traddodiad morwrol, trafnidiaeth a bywydau personol bob dydd trigolion y rhan yma o ogledd-orllewin Cymru.
Fel ymchwilydd a chantores werin, fy mwriad yw codi ymwybyddiaeth ac ennyn balchder yn y caneuon hyn, a thrwy ymchwil pellach, eu cyflwyno o’r newydd i repertoire y traddodiad gwerin Cymreig.