Dr Gemma McGregor (Prifysgol Aberdeen)
Mae fy ngherddoriaeth wedi'i ffurfio o synau dynwaredol a haenau gweadol sy'n adeiladu strwythur arddull collage. Mae'r ffurf hyn yn caniatáu cynnwys deunydd gwahanol i annog y gwrandäwr i glywed y gerddoriaeth mewn cyd-destun newydd. Rwy'n defnyddio delweddau o gyfryngau eraill gan gynnwys ffotograffiaeth, paentiadau, sagas, cerddoriaeth draddodiadol, lleferydd tafodieithol, safleoedd hanesyddol, a synau amgylcheddol. Ar brydiau, mae’r gerddoriaeth yn caniatáu i synau tonaidd gael eu hail-ymadrodd mewn lleoliad cyfoes. Rwyf wedi creu dau waith yn seiliedig ar baentiadau gan Samuel Peplow a Sylvia Wishart, ac wedi cydweithio â beirdd, cerflunwyr, peintwyr, gwyddonwyr, a gwneuthurwyr ffilmiau. Trwy weithio mewn partneriaeth, rwyf wedi darganfod bod gan fy nghyfansoddiad bersbectif cyfoethocach a'i fod yn cyfeirio at siapiau, patrymau, syniadau a synau o'r disgyblaethau eraill. Mae ymchwilio i ddeunydd y darn mewn partneriaeth â’r artist arall yn arwain at naratif gwasgaredig. Mae elfennau'r gwaith yn ffurfio rhisom o elfennau cydgysylltiedig sy'n aflinol. Fel y dywedodd yr athronwyr Deleuze a Guattari yn A Thousand Plateaus, ‘nid oes dechrau na diwedd i risom; mae o bob amser yn y canol, rhwng pethau’ (1980). Fy nod yw creu gweithiau lle mae’n rhaid i’r gwrandäwr ‘uno’r dotiau’ yn ogystal ac adweithio ag uniongyrchedd sy’n gadael yr ymateb cyflyredig ar ei ôl. Byddaf yn trafod dau o’m gweithiau – The Fabian Strategy – gosodiad electroacwstig a grëwyd gyda’r cerflunydd, Craig Ellis, a Beside the Ocean of Time, gosodiad a fideo a grëwyd gyda’r cerflunydd Anne Bevan, a’r gwneuthurwr ffilmiau Mark Jenkins, a gafodd ei arddangos yn y Arddangosfa Academi Frenhinol yr Alban, 2024.