Digwyddiad Cylch Ieithyddiaeth: Bilingualism and Neuroplasticity: Taking Stock and Moving Forward
Digwyddiad Cylch Ieithyddiaeth
Dr Christos Pliatsikas, University of Reading
Mae ymchwil wedi dangos bod profiadau sy’n heriol yn wybyddol yn achosi effaith ar yr ymennydd. Gall dwyieithrwydd, a’r gorchmynion prosesu a rheoli ychwanegol cysylltiedig, gael ei ystyried fel profiad o’r math hwn. Yn benodol, ymddengys bod cyfeiriad a chryfder yr effeithiau hyn yn dibynnu ar ansawdd a maint y mewnbwn.
Yn y cyflwyniad hwn, byddaf yn dechrau trwy adolygu’r dystiolaeth sydd ar gael ar effeithiau strwythurol dwyieithrwydd o safbwynt niwro-blastigrwydd ar sail profiad, dangos sut mae hyn yn adlewyrchu patrymau niwro-blastigrwydd sydd wedi cael eu canfod mewn parthau dysgu eraill (di-iaith), a dangos sut maen nhw wedi cyfrannu at awgrym damcaniaethol newydd, sef y Model Ail-Strwythuro Deinamig. Byddaf yn cyflwyno tystiolaeth newydd o fy labordy, sy’n ategu’r model hwn.
Bydd ail ran y cyflwyniad yn darparu arolwg o’r dystiolaeth ynglŷn ag effeithiau dwyieithrwydd ar y ffordd mae’r ymennydd yn gweithredu wrth orffwys, yn cynnwys tystiolaeth newydd gan brosiect sy’n mynd ymlaen, sy’n defnyddio EEG cyflwr gorffwys.