Luxi Tian (Prifysgol Bangor)
Ar ddiwedd y 19eg ganrif, datblygodd y cyfansoddwyr Debussy a Ravel ddiddordeb cryf yng ngherddoriaeth y Dwyrain a graddfeydd pentatonig. Sawl degawd yn ddiweddarach, yn yr 20fed ganrif yn y Dwyrain, aeth grŵp o gyfansoddwyr Tsieineaidd, fel Shiguang Cui,ati i ddilyn yr un trywydd. Yn y papur hwn, dadleuaf fod cyfansoddwyr Tsieineaidd o ganol yr 20fed ganrif yn tynnu'n benodol ar weithiau cynnar cyfansoddwyr Argraffiadol Ffrengig fel Ravel a Debussy i creu arddull newydd a unodd ag estheteg Tsieineaidd. Cefnogir y ddadl hon gan ddarlleniad agos o Jeux d’eau gan Maurice Ravel a Mountain Spring gan Shiguang Cui. Mae llenyddiaeth gyfredol yn nodi bod estheteg glasurol Tsieineaidd, ers yr hen amser, wedi talu sylw i'r "气韵生动" (swyn byw). Mewn cymhariaeth, roedd estheteg gerddorol Argraffiadaeth Ffrengig yn pwysleisio agweddio megis sain, golau a lliw. Mae Jeux D'eau yn enghraifft o un o weithiau Argraffiadwyr cynnar Ravel, trwy wahanol dechnegau chwarae i greu siâpiau "dŵr. Yn yr un modd, mae gwahanol effeithiau sain Shiguang Cui yn debyg i naws niwlog ac etheraidd Argraffiadaeth - ond yn parhau i gyfuno â'r syniad o estheteg glasurol Tsieineaidd. Bydd y papur hwn yn canolbwyntio ar y ddau waith hyn o safbwynt deinameg, rhythm a sawl ongl i dadansoddi sut mae cerddoriaeth yn siapio'r ddelwedd o ddŵr, ac yn arwain at ganlyniad trwy gymharu a dadansoddi enghreifftiau cerddorol: mae'r tebygrwydd mewn clyw yn dod o'r defnydd o dechnegau cyfansoddi, ond mae syniadau esthetig yn gwneud dau ddarn yn wahanol.