‘Herio Theori Seinlawnder: Tystiolaeth o anhwylderau cyfathrebu niwrogenig.’
Cylch Ieithyddiaeth
Siaradwyr: Professor Martin J. Ball (Prifysgol Bangor)
Gellir meddwl am seinlawnder fel cryfder, neu eglurder canfyddedig, sain lleferydd penodol. Mae cydberthynas rhwng hyn a graddau'r rhwystr o fewn y llwybr llais uwchlaryngeal. Felly, er enghraifft, mae gan lafariad isel (gyda’r lleiaf o rwystr) lefel uchel iawn o seinlawnder, o'i chymharu â ffrwydrolyn (gyda’r mwyaf o rwystr) sydd â lefel isel iawn o seinlawnder. Mae ymchwilwyr wedi cynnig bod siâp sillaf mewn iaith naturiol yn cael ei lywodraethu gan yr Egwyddor Dilyniannu Seinlawnder, a bod y mathau o glystyrau cytseiniaid yn cael eu rhagweld gan yr Egwyddor Gwasgariad Seinlawnder.
Mae’n bwnc dadleuol a yw seinlawnder (ac yn arbennig yr egwyddor dilyniannu seinlawnder a'r egwyddor gwasgariad seinlawnder) yn rhan annatod o weithrediad yr ymennydd, neu’n syml a ydyw’n allddodol, gan adlewyrchu cyfyngiadau ynganiad a/neu ganfyddiad. Os ydyw’n rhan annatod o weithrediad yn yr ymennydd, a yw seinlawnder yn rhan o'r ffonoleg, yn rhan o’r gydran cynllunio seinegol, neu’n rhan o’r gydran gweithredu seinegol?
Yn y sgwrs hon byddaf yn cyflwyno rhai o’r dadleuon a gyflwynwyd wrth drafod y pwnc hwn. Yn benodol, er mwyn ymchwilio i’r honiadau hyn fe drafodir tystiolaeth o faes lleferydd oedolion ag anhwylderau lleferydd niwrogenig. Os bydd amser yn caniatáu, cyflwynir tystiolaeth hefyd ynglŷn â threiglo cytseiniaid dechreuol yn yr ieithoedd Celtaidd.
ID y cyfarfod: 329 835 600 559
Cyfrinair: 6DkbiT