Listening to the Lakes: What the earth is telling us about climate change, and how we can listen
Yr Athro/Professor Andrew Lewis (Prifysgol Bangor University)
Mae'r argyfwng hinsawdd yn dod yn gynyddol amlwg trwy ddigwyddiadau sy’n llenwi’r penawdau newyddion fel llifogydd a thanau gwyllt; ond mae arwyddion bod yr hinsawdd mewn trallod hefyd yn amlwg trwy nifer o farcwyr llai amlwg ond sydd yr un mor arwyddocaol. Bydd y sgwrs hon yn trafod cyfansoddiad dau ddarn acwsmatig, y ddau yn tynnu ar ddata a ddarparwyd gan gydweithwyr yn Ysgol Gwyddorau’r Eigion Bangor. Mae Three Storms (2022) yn defnyddio data am donnau cefnforol o fwiau sydd wedi’u lleoli o amgylch de-orllewin Lloegr a gogledd Cymru, ac yn canolbwyntio ar Chwefror 2022. Yn ystod y mis hwn cafwyd tair storm a enwyd yn olynol mewn un wythnos. Mae Two Lakes (2023) yn tynnu ar ddata am lefel dŵr o lynnoedd ym Mecsico a Chymru, lle mae sychder cyson yn arwain at adeiladau oedd wedi eu boddi yn ailymddangos, ac mae hyn yn digwydd yn fwyfwy rheolaidd. Mae'r ddau ddarn yn troi'r data gwyddoniaeth yn sain, gan wneud 'llefau gofidiau’r ddaear’ yn glywadwy. Maent yn gofyn y cwestiwn: a ydym yn gwrando?