Ymunwch â Dr Peredur Webb-Davies Darllenydd mewn Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd ar gyfer y Sesiwn Flasu ar-lein AM DDIM
Mae'r geiriadur Saesneg yn cynnwys cannoedd o filoedd o eiriau, ac mae gan bob un ohonynt ei thaith ieithyddol unigryw ei hun. Bydd y sgwrs hon yn eich cyflwyno i rai o’r hanesion mwyaf diddorol o eiriau yn Saesneg, ac yn gwneud ichi ailfeddwl y geiriau rydych yn eu defnyddio yn eich bywyd bob dydd! Agwedd ar ieithyddiaeth hanesyddol yw etymology, sy'n ymwneud â sut mae ieithoedd yn newid dros amser. Yn ogystal ag edrych ar etymolegau gwahanol eiriau, ar hyd y ffordd byddwn yn ymdrin â hanfodion Ieithyddiaeth, gan ystyried nodweddion gramadegol fel ffonoleg a morffoleg a'u rôl wrth greu geiriau.
Cewch weld ein Hysbysiadau Preifatrwydd yma. Trwy gyflwyno'r ffurflen gofrestru rydych yn cytuno â thelerau defnyddio a hysbysiad preifatrwydd y Brifysgol. Cewch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i dynnu'ch cydsyniad yn ôl neu newid eich dewisiadau cydsyniad.
Caiff y sesiwn ei chyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg.
Archwiliwch y gyfres Sesiynau Blasu: