Bydd enw Cymro a fudodd i America o ogledd Cymru yn cael ei ychwanegu at y National Abolitionist Hall of Fame. Ymchwil gan yr Athro Jerry Hunter, Americanwr sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru, a amlygodd waith y pregethwr o Gymru, y Parch Robert Everett, yr oedd ei negeseuon yn annog cymunedau i gefnogi'r mudiad gwrth-gaethwasiaeth. O ddysgu am yr arwr lleol hwn, galwodd nifer o gymdeithasau Cymreig Gogledd America ar iddo gael ei ychwanegu at yr oriel genedlaethol o anfarwolion y mudiad hwnnw.
Disgrifiwyd y Parchedig Robert Everett fel un o’r Cymry mwyaf dylanwadol yn America yn ei gyfnod. Bydd yn ymuno â Harriet Tubman a John Brown yn y National Abolition Hall of Fame and Museum, yn dilyn seremoni a dathliadau a gynhelir y penwythnos hwn (22-23 Hydref). Mae’r amgueddfa’n anrhydeddu’r bobl a ymgyrchodd i ddiddymu caethwasiaeth, gan roi sylw i’r gwaith a wnaethant ac i etifeddiaeth y frwydr honno. Maent yn ychwanegu enwau at oriel yr anfarwolion bob dwy flynedd.
Yn wreiddiol o Cincinnati, Ohio, yr Athro Jerry Hunter o Brifysgol Bangor yw’r awdurdod pennaf ar lenyddiaeth Cymry America. Ei ymchwil i lenyddiaeth Gymraeg yn America a daflodd oleuni ar waith y Parchedig Everett gan ddwyn hynny i sylw cymdeithasau Cymreig America. Yr Athro Hunter yw awdur I ddeffro ysbryd y wlad sef hanes yr ymgyrchu a wnaeth Robert Everett yn erbyn caethwasiaeth yn America.
Dywed yr Athro Hunter, sydd yn annerch y cyfarfod yn America drwy fideo:
“Trwy ddarllen deunydd Cymraeg a gyhoeddwyd yng ngogledd America yn ystod y cyfnod, daeth yn amlwg fod Robert Everett yn un o arweinwyr moesol, crefyddol a deallusol y gymuned Gymreig-Americanaidd. Mae'n debyg iddo wneud mwy na neb arall i radicaleiddio Americanwyr Cymraeg eu hiaith a'u dwyn i mewn i’r mudiad gwrth-gaethwasiaeth.
Ar y pryd, roedd gan America lawer o gymunedau Cymraeg bywiog, a oedd yn cynnal diwydiant cyhoeddi Cymraeg gan gynnwys amryw o bapurau newydd a chyfnodolion. Yn y gymdeithas honno, roedd y Parch Everett yn ymgyrchydd diflino, gan hyd yn oed gyhoeddi 'ymgyrch 10 pwynt' i gapeli a grwpiau eraill ei dilyn. Diddymu caethwasiaeth oedd ei brif nod, er ei fod hefyd yn cefnogi hawliau merched, heddychiaeth a dirwest. Bu’n rhaid iddo weithio trwy gyfyng-gyngor moesol mewnol fel heddychwr, a phenderfynodd yn y diwedd fod diddymu caethwasiaeth yn bwysicach na heddwch, ac felly y daeth i gefnogi Rhyfel Cartref 1861-65, sef gwrthdaro a welai fel crwsâd yn erbyn caethwasiaeth.”
“Y Parch Everett oedd golygydd 'Y Cenhadwr Americanaidd', (cylchgrawn misol enwad yr annibynwyr) a oedd yn cynnwys deunydd crefyddol, diwylliannol a newyddion a fyddai’n apelio at gynulleidfa ehangach o ddarllenwyr Cymraeg eu hiaith yn America. O’r rhifyn cyntaf un, defnyddiodd y cylchgrawn misol i gyhoeddi deunydd gwrth-gaethwasiaeth ac i radicaleiddio a denu Cymry America at yr achos.”
Datgelodd papurau’r Parch Robert Everett hefyd iddo ymhél â chyfieithu ysgrifau’r mudiad gwrth-gaethwasiaeth i’r Gymraeg gan gynnwys Caban F’Ewythr Twm a'i fod yn gweithio fel Gorsaf Feistr ar y Rheilffordd Danddaearol yn cynorthwyo caethweision oedd wedi dianc.
Ni chafodd ei radicaliaeth groeso ym mhobman, a chafodd ei feirniadu am bregethu gwleidyddiaeth o’r pulpud, ond fel y dadleua’r Athro Hunter, roedd ei radicaliaeth yn rhan gynhenid o’r modd yr oedd yn diffinio crefydd anghydffurfiol.
Dywedodd Ted Engle, sy’n Americanwr o dras Cymreig ac yn aelod o’r grŵp a wnaeth yr enwebiad:
“Fe wnes i fynychu’r North American Festival of Wales yn 2017 a chael fy nghyfareddu gan gyflwyniad bywiog iawn yr Athro Jerry Hunter am Dr Everett.
Roeddwn i a’m brawd, sy’n hanesydd amatur a chanddo ddiddordeb yn y rhyfel cartref, mewn un ffordd, yn teimlo embaras nad oeddem yn gwybod mewn gwirionedd pa mor ddylanwadol oedd Everett i'r Rhyfel Cartref ac i’r mudiad dros ddiddymu caethwasiaeth, er ein bod yn frodorion o Oneida County. Mae llawer o hyn wedi cael ei anghofio hyd yn oed yn ein hardal ni, sydd â gwreiddiau dwfn Cymreig, a fedrem ni ddim credu nad oeddem ni’n gwybod am hyn.
Cafodd y project i ychwanegu enw’r Parchedig Everett at yr oriel ei noddi gan y Saint David’s Society of Utica a’r Remsen Steuben Historical Society, ac aethpwyd ati i gasglu dogfennaeth i gefnogi’r cais.
Mae nifer o weithgareddau bellach ar y gweill: mae'r teulu Everett wrthi’n casglu hanes y teulu, ac yn ddiweddar cafodd safle eglwys y Parchedig Everett ei chofrestru’n safle hanesyddol gan Dalaith Efrog Newydd. Mae'r gymdeithas hanes leol hefyd wedi llunio arddangosfa am y Parchedig Everett yn eu pencadlys yn Utica. Ein gobaith ydy gallu datblygu mwy o ddiddordeb yng Nghymru ymhlith pobl Canol Efrog Newydd.”