Pan fydd Prifysgol Bangor yn llwyfannu ei chyngerdd nesaf yn Neuadd Prichard-Jones ar nos Sadwrn, 2 Ebrill, mi fydd yn ddathliad o rym cerddoriaeth mewn mwy nag un ffordd.
Gan ddwyn ynghyd rhai o sêr ifanc mwyaf talentog Gogledd Cymru, côr lleol a cherddorfa symffoni a chorws y Brifysgol, yn ogystal â nodi canmlwyddiant o gerddoriaeth yn y Brifysgol bydd y cyngerdd yn talu teyrnged i ymrwymiad cerddorion a chantorion y Brifysgol drwy’r pandemig.
Fel esboniai Gwyn L Williams, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth y Brifysgol, “Roeddem eisiau gwneud rhywbeth gwirioneddol arbennig i nodi’r canmlwyddiant, rhywbeth oedd yn adlewyrchu pwy ydym ni yma ym Mangor.
“Dim ond unwaith y mae modd dathlu canmlwyddiant, ond wrth gwrs mae hi wedi bod yn amser anodd i geisio cael pawb at ei gilydd i ymarfer! Fel Prifysgol, ry’n ni wedi gwneud ein gorau i barhau â’r ymarferion a’r holl gynlluniau ar gyfer dathlu’r canmlwyddiant er mwyn arddangos cynnig mor eang sydd gan Prifysgol Bangor o ran cerddoriaeth, fel pwnc i’w astudio ac o ran perfformiadau i’r cyhoedd.
“Ar hyn o bryd ‘da ni'n paratoi ar gyfer gwaith enfawr a gwych Mozart: yr Offeren yn C leiaf i gôr a cherddorfa gyda pedwar unawdydd gwych wrth i ni baratoi ar gyfer ein Cyngerdd Dathlu ddechrau mis Ebrill. Mae’n arbennig i weld yr holl egni a’r ymroddiad sydd gan bawb. Felly’n sicr, mae achos i fod yn obeithiol y bydd pethau’n gwella yn raddol, gyda’r Brifysgol yn dangos y ffordd a cherddoriaeth i’w glywed ym mhobman!”
Ymysg y perfformwyr ar y noson fydd y soprano o Ynys Môn Llio Evans, enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts fu’n hyfforddi gyda Denis O’Neil. Bydd Llio yn perfformio gydag Opera Holland Park am y tro cyntaf eleni fel Josephine yn HMS Pinafore. Cawn hefyd berfformiad gan y Mezzo-soprano Angharad Lyddon fu’n cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Canwr y Byd y BBC, y tenor o Gymro Huw Ynyr, gwblhaodd ei M.A. mewn Perfformiad Opera yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru wedi graddio gyda M.Mus cwrs Perfformio ym Mangor a Bryn Roberts, sydd hefyd yn gyn-fyfyriwr Bangor fwynhaodd y cyfle i ganu wrth astudio Mathemateg ac sydd bellach yn canu gyda Chantorion Menai, fydd yn ymuno gyda Chorws a Cherddorfa Symffoni’r Brifysgol ar y noson.
Prifysgol Bangor: Cyngerdd Dathlu Canmlwyddiant o Gerddoriaeth
Nos Sadwrn 2 Ebrill, 7.30pm Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor
Tocynnau: £12/£10/£5 o Swyddfa Docynnau Pontio 01248 38 28 28 neu ar-lein www.pontio.co.uk