Yn ddiweddar, bu’r Adran Ieithoedd a Diwylliannau Modern yn cydweithio â Llwybrau at Ieithoedd Cymru i gynnal dau ddigwyddiad i hyrwyddo gwelededd a nifer y bobl sy'n manteisio ar ieithoedd yn ysgolion Cymru. Gyda chefnogaeth cynllun Dyfodol Byd-eang Llywodraeth Cymru drwy GwE, gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol Gogledd Cymru, roedd digwyddiad ar gyfer ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd.
Yn ystod y digwyddiadau gwelwyd 110 o ddisgyblion blwyddyn pumb a 151 o ddisgyblion blwyddyn wyth a naw o ysgolion ledled Gogledd Cymru yn cymryd rhan: Ysgol Porth y Felin, Ysgol Santes Fraid, Ysgol Llanbedrog, Cynfran and Maes Owen, Ysgol Brynrefail, Rhyl High School, Ysgol Tryfan, Ysgol Morgan Llwyd, Ysgol Uwchradd Dinbych, Ysgol Uwchradd Prestatyn, Ysgol Syr Hugh Owen, Ysgol Glan y Môr, Ysgol Castell Alun ac Ysgol Dyffryn Ogwen.
Mae'r disgyblion brwdfrydig, sydd bellach wedi'u hyfforddi fel Uwch-arwyr Ieithoedd Rhyngwladol a Disgyblion sy’n Llysgenhadon Iaith, yn barod i helpu i hyrwyddo ieithoedd o fewn eu hysgolion.
Roedd yr ystod amrywiol o weithgareddau yn cynnwys sgyrsiau, sesiynau blasu iaith a diwylliant, a gweithdai wedi'u teilwra i grwpiau o wahanol oedran. Ymhlith yr uchafbwyntiau roedd sesiynau hyfforddi, mewnwelediadau i bwysigrwydd ieithoedd yn y byd gwaith, phrofiadau diwylliannol fel caligraffeg Tsieineaidd, Tai Chi ac Iaith Arwyddion Prydain. Cynhaliwyd y gweithgareddau hyn gan gynrychiolwyr o Llwybrau at Ieithoedd Cymru Sanako UK (darparwyr technoleg ar gyfer ieithoedd modern), Canolfan Sign Sight Sound, Sefydliad Confucius a chydweithwyr a llysgenhadon iaith o'r Adran.
Roedd y digwyddiad ysgol gynradd hefyd yn gyfle i athrawon o ysgolion amrywiol brofi pecyn cymorth a ddatblygwyd gan y project hwn yn unol â'r Cwricwlwm i Gymru.
Dywedodd Rubén Chapela-Orri, Cydlynydd Llwybrau at Ieithoedd yng Ngogledd Cymru a thiwtor Sbaeneg yn yr Adran, "Mae cyflwyno dysgu ieithoedd rhyngwladol o Flwyddyn 5 yn gyfle i hyrwyddo ieithoedd, diwylliannau a thyfu meddylfryd rhyngwladol ymhlith pobl ifanc yng Nghymru. Mae dysgu’r sgiliau hyn yn fanteisiol i’r economi a’r gymdeithas ac mae hyrwyddo agwedd fwy byd-eang yn arbennig o fuddiol i ddisgyblion mewn cymunedau mwy difreintiedig."