Dyfarnu gwobr Efydd Athena Swan i ddwy Ysgol academaidd i gydnabod gwaith cydraddoldeb rhyw
Mae Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau wedi llwyddo i sicrhau gwobr Efydd Athena Swan, ac mae'r Ysgol Gwyddorau Eigion wedi llwyddo i adnewyddu ei Gwobr Efydd. Mae'r gwobrau hyn yn dangos yr ymrwymiad parhaus i gydraddoldeb rhyw yn y ddwy ysgol.
Mae Athena Swan yn siarter ledled y Deyrnas Unedig sy’n annog ac yn cydnabod ymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb rhyw o fewn addysg uwch ac ymchwil. Mae Prifysgol Bangor yn meddu ar Wobr Sefydliadol Arian, gyda'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg, yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol, Ysgol Gwyddorau’r Eigion, yr Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon, yr Ysgol Gwyddorau Iechyd, a’r Ysgol Busnes yn meddu ar Wobrau Efydd.
Dywedodd yr Athro Ruth McElroy, Pennaeth Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau, “Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan annatod o’n hymchwil a’n haddysgu. Mae'r wobr hon yn cadarnhau ein hymrwymiad parhaus i sicrhau bod y gwerthoedd hyn yn cael eu hyrwyddo a'u gwreiddio ymhlith staff a myfyrwyr yr Ysgol. Hoffwn ddiolch i'r holl staff am eu hymrwymiad i’r broses gwneud cais, a diolch arbennig i aelodau'r tîm hunanasesu."
Dywedodd yr Athro John Turner, Pennaeth Ysgol Gwyddorau’r Eigion, " Rydym yn falch iawn o fod wedi adnewyddu ein Gwobr Efydd Athena Swan, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i wella cydraddoldeb, cefnogi cydweithwyr benywaidd ac ysgogi newid diwylliannol ehangach o fewn ein cymuned. Rwy’n falch iawn o’r cynnydd yr ydym wedi’i wneud, a hoffwn ddiolch i’n tîm hunanasesu, dan arweiniad Dr Margot Saher, am eu gwaith caled.”
Ychwanegodd yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-ganghellor dros Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, “Llongyfarchiadau i’r ddwy ysgol ar eu ceisiadau llwyddiannus. Mae’r gwobrau hyn yn dangos bod ein Prifysgol wedi ymrwymo'n llwyr i barhau â'n gwaith yn y maes hwn ac i ymgorffori cydraddoldeb ym mhopeth a wnawn."
Sefydlwyd Siarter Athena Swan yn 2005, yn wreiddiol i ganolbwyntio ar hyrwyddo gyrfaoedd merched sy’n gweithio mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM) mewn addysg uwch. Ers hynny, mae wedi ehangu i gynnwys staff pob gwasanaethau proffesiynol a phob adran academaidd, gan gefnogi cynwysoldeb ar gyfer pob hunaniaeth rhywedd, a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau croestoriadol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag athenaswan@bangor.ac.uk