Mae Hero Douglas, myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Bangor wedi bod ar lwyfan y National Theatre uchel ei barch yn Llundain. Roedd Hero yn ymddangos mewn cynhyrchiad o The Crucible gan Arthur Miller, gyda’r cynhyrchiad yn derbyn adolygiadau ffafriol iawn yn y wasg genedlaethol.
Rŵan, bydd y cynhyrchiad i’w weld gan bawb wrth iddo fod ar gael mewn sinemâu drwy Brydain o dan gynllun National Theatre Live, gan gynnwys Sinema Pontio (https://www.pontio.co.uk/online/article/23Crucible ) ar 23 a 26 Ionawr. Bydd Hero’n ymddangos ar y cyd efo Erin Doherty, (Tywysog Anne ifanc yn The Crown) a Brendan Cowell, (Yerma a hefyd yn ymddangos yn Avatar: The Way of Water).
A hithau’n astudio Doethuriaeth mewn Cerddoriaeth ac wedi ennill Ysgoloriaeth o bwys gan Sefydliad James Pantyfedwen, cymerodd Hero’r cam cyntaf wrth ysgrifennu at Marc Tritschler, cyfarwyddwr Cerdd y National Theatre, gan ofyn am gyfle i ennill profiad yn gweithio efo cwmni theatr broffesiynol.
Yn ôl Hero, sy’n byw yng Nghapel Curig,
“Roedd yn anhygoel pan ymatebodd Marc i mi gan fy ngwahodd am sgwrs. Rhai wythnosau wedyn, bûm yn mynychu gweithdy i ymarfer peth o’r gerddoriaeth a oedd i’w defnyddio yn The Crucible, a gyfansoddwyd gan y cyfansoddwr Americanaidd gwych, Caroline Shaw. Wedi’r gweithdy, cysylltodd Cyfarwyddwr y Cwmni, Lyndsey Turner, efo fi i ofyn a fyddwn yn fodlon chwarae un o’r merched ifanc o Salem yn eu cynhyrchiad. Roeddwn i wedi fy syfrdanu!”
Roeddent angen pobol oedd yn medru actio a chanu. Golygodd gradd Hero mewn Cerddoriaeth ei bod yn medru canu a darllen y sgôr a chynnig rhywbeth gwahanol.
Dywedodd Hero am y profiad,
“Dysgais lawer am sut y mae cerddoriaeth yn gweithio yng nghyd-destun theatr trwy fod yn rhan o’r cynhyrchiad. Rwyf bellach yn deall y broses gam wrth gam wrth greu cerddoriaeth o'r tu mewn allan, fel petai. Rwyf wedi dysgu parchu’r her sy’n wynebu perfformwyr ac actorion sy’n canu mewn cynyrchiadau theatraidd. Does dim rhaid i chi ganu nerth esgyrn eich pen drwy’r amser, ac mae’n hanfodol medru plethu eich llais gyda lleisiau eraill. Mae’n ymdebygu i ddeall rôl un offeryn o fewn cerddorfa fawr. Yn bwysicach fyth, buaswn yn dweud bod y profiad wedi symbylu fy ngwaith fel cyfansoddwr, ac wedi gwneud i mi sylweddoli i ba gyfeiriad yr hoffwn ddatblygu fy ngyrfa.”
Wrth sôn am sut y byddai’r profiad o fudd i’w PhD dywedodd,
“Mae’n sicr bod y profiad wedi cadarnhau mai cerddoriaeth a’r theatr yw’r pethau rwyf yn angerddol drostynt, ac eisio’u datblygu. Mae cyfansoddwyr yn gweithio ar eu pen eu hunain fel rheol, ond wrth weithio gyda cherddoriaeth theatr, rydych yn dod yn rhan o rywbeth mwy. Rwy’n gobeithio medru arbenigo yn y maes yn y dyfodol ac efelychu pobol fel Marc Tritschler a’r cyfansoddwr Americanaidd, Dave Malloy. Gall y theatr eich rhoi mewn cyswllt uniongyrchol gyda’r bobol anhygoel hyn - boed yn gantorion neu actorion.”
Wedi i Hero lwyr fwynhau'r profiad o fyw a bod yn y theatr am dri mis cyfan, a hyd yn oed profi baglu ar lwyfan o flaen cynulleidfa lawn o dros 1,500 o bobol, dywed,
“Rwy’n bwriadu cadw mewn cysylltiad gyda’r National Theatre ac wedi mynychu a gwylio rhai ymarferion ar gyfer Hex, eu sioe gerdd newydd sy’n seiliedig ar Sleeping Beauty. Mae The Crucible yn dod i sinemâu fis Ionawr 2023, felly dylai hynny fod yn gyffrous. Mae sôn am fywyd pellach i’r peth, er nad oes dim wedi ei gadarnhau eto. Rwy’n sicr eisiau aros ym maes theatr, a hefyd rhoi amser i fy PhD yr un pryd!“
Meddai Pwyll ap Siôn, arolygwr Doethuriaeth Hero,
“Mae’n hawdd gweld sut mae ymchwilwyr yn colli ffocws ar ddatblygu sgiliau proffesiynol a chyfleoedd gyrfa pan maent wedi llwyr ymgolli yn eu hymchwil PhD. Mae Hero eisoes yn ennill profiad amhrisiadwy ar ei rhaglen PhD. Bydd y rhain o fudd i’w dyfodol ym myd y theatr a cherddoriaeth. Bydd y sgiliau trosglwyddadwy gradd cerdd yn ei gwneud hyd yn oed yn fwy cyflogadwy! Mae hi’n amlwg yn seren y dyfodol!”