Gwerthfawrogi gwyddoniaeth ac ysbrydolrwydd ar Ddiwrnod y Ddaear
Er mwyn nodi Diwrnod y Ddaear eleni, ar ddydd Llun, 22 Ebrill, aeth myfyrwyr modiwl Natur a Chrefydd y Gorllewin ar daith gerdded gyda darlithydd Ysgrifennu Creadigol Saesneg, Siân Melangell Dafydd er mwyn dysgu mwy am y gyfoeth o blanhigion sy’n tyfu o amgylch Prif Adeilad Celfyddydau’r Brifysgol.
Mae’r modiwl, Natur a Chrefydd y Gorllewin, yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr astudio sut mae crefydd ac ecsbloetio’r byd naturiol wedi cael eu cysylltu’n hanesyddol, yn enweidg yn y byd gorllewinol, a’r gwahanol ffyrdd y mae cymdeithas, bellach, yn ymdrechu i fynd i’r afael â’r cyfyng-gyngor amgylcheddol.
Mae ymchwil wyddonol ar waith ac ymgyrchoedd niferus yn digwydd yn gyfredol, ond ers ail hanner yr 20fed ganrif, mae mwy o bwyslais wedi’i roi ar ecoysbrydolrwydd fel cysyniad: hynny yw, astudio’r ddaear, bioleg a systemau’r byd naturiol, er mwyn eu deall, a chydnabod a gwerthfawrogi eu hanfod – sef eu bod oll yn fyw. A dyna lle y gwelir y briodas rhwng yr ecolegol a’r ysbrydol. Gan hynny, mae’r modiwl yn archwilio gwahanol agweddau ar ecoysbrydolrwydd diweddar, yn amrywio o Ecoleg Dwys, i Grefydd Gwyrdd Tywyll, i wahanol fathau o Baganiaeth, gan gynnwys Derwyddiaeth Fodern, Gwrachyddiaeth, Wica, a Shamaniaeth.
‘Bwriad y daith yma efo Siân,’ meddai Dr Gareth Evans-Jones, darlithydd Athroniaeth a Chrefydd, a chydlynydd modiwl Natur a Chrefydd y Gorllewin, ‘oedd rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddysgu am y fath gyfoeth o blanhigion sy’n tyfu dafliad carreg o’r Brif Adeilad. Mae yna blanhigion sy’n llesol i wahanol anhwylderau, ond hefyd ambell blanhigyn y dylid eu hosgoi. Mae uned ecoysbrydolrwydd y modiwl yn dangos pa mor bwysig ydi astudio natur ynghyd â chofio ei bod yn rhywbeth byw – ac felly – bod angen inni fel pobl, sy’n rhan o’r byd naturiol, fod yn cyson ymwybodol o’i hynodrwydd, a’n dibyniaeth arni.’
Wrth ymateb i’r daith, dywedodd Megan Keen, sydd yn ei hail flwyddyn yn astudio Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd, ‘Mi wnes i garu profi’r ardaloedd gwyrdd bach o amgylch y Brid Adeilad drwy lens newydd. Roedd Siân yn ymarfer cysyniadau rydan ni wedi bod yn eu trafod yn y dosbarth, ac roedd y daith yma’n help garw imi eu deal ymhellach, ynghyd â bod yn fwynhad i’w gweld.’
Eiliodd Elen Edwards, sydd hefyd yn ei hail flwyddyn, sylwadau Megan, drwy nodi, ‘Roedd y daith efo Siân yn un hynod ddiddorol, ac roedd dysgu am y gwahanol blanhigion yn rhoi elfen o werthfawrogiad arall imi tuag at y byd natur.’
Gan i’r daith ddigwydd ar Ddiwrnod y Ddaear, y gobaith oedd y byddai’n dangos bod yr hyn mae’r myfyrwyr yn ei astudio ac yn ei drafod yn fanwl yn yr ystafell ddarlithio’n gwbl berthnasol i’r byd tu allan, ac yn addysg ymarferol. A dyna a nodwyd gan Holly Needham, myfyrwraig Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd sydd yn ei thrydeddd flwyddyn:
‘Dwi’n crefu fod y daith dywys gan Siân wedi helpu rhoi yr hyn rydyn yn ei ddysgu am ecoysbrydolrwydd, ymysg pethau eraill fel rhan o’r modiwl, mewn cyd-destun sicr. Roedd mynd tu allan mor bwysig i’n hatgoffa am sut mae’r rhannau bychain, unigol o natur, mor bwysig, a hynny’n dilyn misoedd o drafod ‘natur’ fel un endid – yn fwy o gysyniad. Roedd gallu canolbwyntio’n fanwl ar fanylion y planhigion gwahanol, sydd wedi bod mor agos atom ni ers cymaint o amser, wedi datblygu gwerthfawrogiad gwirioneddol o’r byd o’n cwmpas.’
Mae Siân Melangell Dafydd yn brofiadol iawn yn fforio ac yn wybodus iawn am y byd naturiol, ac roedd cael ei mewnbwn a’i bydolwg ar gymaint o agweddau’n amhrisiadwy. A’r cyfan wedi’i grisialu’n eithriadol bwysig yn y weithred o ‘ddiolch’ i bob deilen, blodyn, ffrwythyn neu lysieuyn a dynnir o wreiddiau’r ddaear.