Gwobr Newydd i Ddathlu Awduron Newydd Bangor
Mae gwobr newydd sy’n deyrnged i un o feirdd enwocaf Cymru wedi’i chyflwyno ym Mhrifysgol Bangor i ddathlu llwyddiannau awduron newydd.
Cyflwynwyd Gwobr Lenyddol gyntaf R.S. Thomas 2024 i Leigh Roberts am ennill y marc uchaf yn nhraethawd ymchwil ei chwrs Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol (Saesneg). Roedd y traethawd yn waith ffuglen wreiddiol sy’n archwilio etifeddiaeth gwrthddiwylliannau’r 1990au ar draws gwahanol genedlaethau. Cyflwynodd noddwr y wobr, sef Ali Anwar o Sefydliad H'mm, dlws gwydr Fenisaidd iddi mewn digwyddiad arbennig yng Nghanolfan Celfyddydau Pontio, a bydd Leigh yn cael cyfle i gyhoeddi ei gwaith gyda Gomer.
Nododd yr Athro Tony Brown, sef cyd-gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil R.S. Thomas, pa mor ddefnyddiol yw mentrau megis Sefydliad H'mm sy’n cefnogi'r celfyddydau ar adeg heriol o ran cyllid diwylliannol. Roedd yn canmol 'safbwynt ffres a dwyster rhyfeddol' y darn ysgrifennu buddugol.
Wrth ymateb i ennill y wobr, dywedodd Leigh: "Mae’r wobr hon werth y byd i mi, ac mae cael y cyfle i gyhoeddi fy ngwaith yn gwireddu breuddwyd. Rydw i mor ddiolchgar am y cyfle hwn ac yn teimlo’n gyffrous am bopeth sydd i ddod."
Roedd y noson hefyd yn cynnwys darlleniadau gan ddeg o fyfyrwyr MA Ysgrifennu Creadigol presennol a myfyrwyr sydd wedi graddio’n ddiweddar. Mae’r myfyrwyr wedi lansio casgliad o’u barddoniaeth a’u rhyddiaith eu hunain o’r enw echoECHOecho, yr oedd myfyrwyr eleni wedi'i olygu, ei ddylunio a'i gyhoeddi fel rhan o'u gradd.
"Bydd y wobr hon yn amlygu cryfder lleisiau newydd ar ein rhaglen ysgrifennu, a’r ffyrdd y mae ein myfyrwyr yn cyfrannu at ddiwylliant llenyddol egnïol. Rwy’n arbennig o falch bod y wobr gyntaf wedi’i dyfarnu am waith mor eithriadol ac anarferol," meddai’r Athro Zoë Skoulding, Cyfarwyddwr yr MA mewn Ysgrifennu Creadigol (Saesneg).