Fy ngwlad:
Logo Gwyl Gerdd Bangor

Dywedodd Guto y bydd cyfansoddiadau Niamh a Tayla yn cael eu cynnwys gyda cherddoriaeth newydd gan Gwydion Rhys, o Rachub ger Bangor, a’r diweddar gyfansoddwraig o Gymru Hillary Tann ochr yn ochr â dau ddarn a ddewiswyd o’r alwad am sgorau ar gyfer Gwobr Gyfansoddi William Mathias.

“Mae Gwydion yn fyfyriwr yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain lle mae’n astudio cyfansoddi gydag Alison Kay a’r darn i’w chwarae yn yr ŵyl yw’r un enillodd Fedal y Cyfansoddwr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin fis Mai diwethaf.

“Mae hefyd yn sielydd penigamp ac yn gyn-ddisgybl o Ganolfan Gerdd William Mathias,” meddai, “ac mae’n wych bod y Ganolfan yn parhau â’i datblygiad cerddorol, ond y tro hwn yn canolbwyntio ar ei ochr greadigol yn hytrach na’i berfformio!”

Yn ddiweddarach yn y prynhawn ym Mar Ffynnon Pontio, bydd perfformwyr dawnus ifanc sydd ar hyn o bryd yng Nghanolfan Gerdd William Mathias yn perfformio cymysgedd eclectig o gerddoriaeth ar gyfer unawdwyr ac ensembles.

Hefyd yn ystod y prynhawn ac mewn mannau cyhoeddus amrywiol yn adeilad Pontio, bydd Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor yn cyflwyno cerddoriaeth newydd gan fyfyrwyr cyfansoddwyr Prifysgol Bangor.

Ddydd Sul, Chwefror 18, bydd Electroacwstig Cymru yn cymryd rhan mewn perfformiad byw yn Theatr Bryn Terfel yn Pontio gyda’r Ganolfan Ymchwil Sain a Delwedd o Brifysgol Greenwich yn Llundain a Luxi Tian, myfyrwraig PhD ym Mhrifysgol Bangor, sy’n chwarae y Guzheng, offeryn traddodiadol Tsieineaidd.

Bydd y cyngerdd, sy’n dechrau am 3pm, hefyd yn cynnwys y premiere byd o waith Jo Thomas, Cascade Infinity, a gomisiynwyd gan yr ŵyl.

Dywedodd Guto fod Jo Thomas yn gyfansoddwraig, artist sain, cynhyrchydd a pherfformiwr llwyddiannus sy’n gweithio’n bennaf gyda sain electronig.

Meddai: "Mae hi'n aml yn gweithio gyda synau wedi'u recordio ac yn eu trin yn greadigol i greu collage diddorol sy'n cael ei berfformio trwy system PA amgylchynnol. Mae ei hysbrydoliaeth yn aml yn defnyddio elfennau thematig emosiynol, fel teimladau neu ymatebion personol.

“Ar gyfer gŵyl eleni mae hi wedi cydweithio â Luxi Tian sy’n chwarae’r Guzheng, offeryn traddodiadol Tsieineaidd, a bydd yn canolbwyntio ar ysgrifennu darn ar gyfer myfyrio ac ymlacio sy’n cynnwys synau hyfryd yr offeryn traddodiadol a rhai synau electronig atmosfferig.”

Ychwanegodd Guto bod Jo, sydd bellach yn byw yn Llundain ond yn hanu o Fangor, wedi astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor lle enillodd radd Meistr.

Yn gynharach yn y dydd, bydd Electroacwstig Cymru, dan gyfarwyddyd Andrew Lewis, yn cyflwyno detholiad o ddarnau a ysgrifennwyd gan fyfyrwyr cyfansoddi o Brifysgol Bangor. Mae'r cyngerdd awr o hyd hwn yn dechrau am 12.30pm.

Mae cyngerdd agoriadol yr ŵyl ar nos Iau, Chwefror 15 yn cynnwys Afro Cluster o Gaerdydd a fydd yn ymuno â’r ensemble lleol Banda Bacana mewn noson o gerddoriaeth o ddau gyfandir sydd wedi’i hysbrydoli gan gerddoriaeth Affricanaidd a rhythmau Samba.

Bydd y digwyddiad ar ffurf cabaret yn Theatr Bryn Terfel, Pontio, a dywedodd Guto y bydd gosodiad arferol yr awditoriwm yn cael ei ddisodli gyda byrddau a chadeiriau, gyda  digon o le i ddawnsio, a gaiff ei annog.

“Mae cerddoriaeth Banda Bacana yn wych ar gyfer dawnsio a bydd y gosodiad arddull cabaret yn ei wneud yn fwy o gig na chyngerdd ffurfiol,” meddai. “Mae ganddyn nhw ddilynwyr lleol gwych ac mae eu set bob amser yn fywiog ac yn llawn egni rhythmig.”

Yn ystod yr ŵyl bydd Marie-Claire Howorth yn cynnal sesiynau yn cyflwyno cerddoriaeth i blant rhwng chwe mis a thair oed ac yn ddiweddarach gyda phlant pedair i saith oed. Cynhelir y sesiynau hyn mewn cydweithrediad â Chanolfan Gerdd William Mathias. Hefyd, bydd Ash Cooke yn cynnal gweithdy byrfyfyr fel rhan o weithgareddau Dan-Ddaear Tŷ Cerdd.

Yn ogystal bydd yr ŵyl yn cynnal diwrnod o weithdai ar gyfer ysgolion lleol ddechrau mis Chwefror.

Dywedodd Guto y bydd y cerddorion lleol Dewi Ellis Jones (taro) a Mared Emlyn (telyn) yn cynnig "cymysgedd eclectig o gerddoriaeth newydd" i ddisgyblion ysgolion uwchradd Ynys Môn yn eu gweithdai cyfansoddi a pherfformio.

Mae rhagor o wybodaeth am yr ŵyl ar gael ar-lein yn www.bangormusicfestival.org.uk. Mae tocynnau ar gael o wefan Pontio yn www.pontio.co.uk neu ffoniwch 01248 382828.