Mae Mishca Burrows, myfyriwr Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Bangor wedi ennill Gwobr Ffuglen Dystopaidd Cymdeithas Orwell 2023.
Mae’r wobr yn cael ei chyflwyno’n flynyddol gan The Orwell Society ac yn cydnabod ffuglen dystopaidd hynod wreiddiol gan awdur ifanc.
Ymysg y panel beirniaid mae mab George Orwell, Richard Blair, Noddwr The Orwell Society, Ann Kronbergs, Ymddiriedolwr Addysg y Gymdeithas, Luke Seaber, Uwch Gymrawd Dysgu yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain a Nicola Rossi, awdur ffuglen dystopaidd arobryn a ddaeth yn ail yng Ngwobr Ffuglen Dystopaidd y Gymdeithas.
Wrth asesu’r cynigion yn ddienw, cytunodd y panel beirniaid yn unfrydol fod stori fer Mischa, Banana Republic, yn sefyll allan am ei pherthnasedd cyfoes a’r ffordd y mae’n ymdrin â phryderon protestiadau gwleidyddol y genre dystopaidd.
Gan ymateb i’r stori fuddugol, meddai’r beirniad Nicola Rossi, sydd ei hun yn ysgrifennwr ffuglen dystopaidd arobryn, bod y stori yn dangos:
…l…bywyd yn y dyfodol agos o safbwynt gweithiwr llaw ynysig mewn canolfan gyflawni dystopaidd. [Mae’r awdur] yn cymhwyso llawer o drosiadau 1984 i senario gredadwy, gyfoes. Mae’n adeiladu byd yn effeithiol gan gynnwys amodau byw difrifol, totalitariaeth a phrinder bwyd a dŵr. Cynigir ychydig o obaith trwy ffigwr y plentyn cyn ei chwalu'n greulon. Diweddglo cryfaf a mwyaf erchyll o'r holl gystadleuwyr. Teitl gwych...
Derbyniodd Mishca’r wobr gyntaf o £750 a thlws, sef penddelw o George Orwell, yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Orwell yn Llundain ar ddydd Sadwrn Ebrill 22ain.
Dywedodd Mishca, “Doeddwn i erioed yn meddwl y byddai’n bosib i mi ennill Gwobr Ffuglen Dystopaidd Cymdeithas Orwell. Cyflwynais fy stori gan ddisgwyl clywed dim byd yn ôl, ac yn sicr rwyf wrth fy modd i fod yn anghywir! Mae ennill y wobr hon yn nodi fy nghyhoeddiad cyntaf erioed, ac mae wedi rhoi cymaint o hyder i mi. Rydw i mor gyffrous fy mod i wedi ennill, ac mae’n teimlo fy mod i’n cymryd fy nghamau cyntaf i fyd rydw i wastad wedi bod eisiau bod yn rhan ohono.”
Mae’r gymuned gyfan o staff a myfyrwyr yn yr adran Ysgrifennu Creadigol, Llenyddiaeth Saesneg, Ffilm, Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau yn llongyfarch Mishca yn gynnes ar y wobr fawreddog a haeddiannol yma. Mae’n wych gweld myfyrwyr israddedig ar ein cyrsiau yn dod yn ymarferwyr creadigol hyderus, sy’n defnyddio eu dawn i ymdrin â chwestiynau cymdeithasol a gwleidyddol mewn ffyrdd gwreiddiol. Mae cyflawniad gwych Mischa wir yn amlygu’r hyn sy’n bosibl pan fydd myfyrwyr yn astudio Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol gyda ni.
I gael rhagor o wybodaeth am astudio Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor, cliciwch yma