Myfyrwyr blwyddyn 12 yn mynychu dosbarth meistr ‘Astudio’r Cerddi’
Daeth rhyw hanner cant o ddisgyblion Blwyddyn 12 o ysgolion a cholegau Gwynedd, Môn a Sir Ddinbych i Adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ddiwedd mis Chwefror ar gyfer y cwrs undydd blynyddol, 'Astudio'r Cerddi'. Dyma gyfle i'r sawl sy'n astudio Cymraeg i Safon UG gael sylw arbenigol ar Uned 3 eu maes llafur, sef astudio a dadansoddi barddoniaeth fodern.
Yn ogystal ag elwa ar arbenigedd rhyngwladol darlithwyr Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn y maes, cafodd y disgyblion gyfle i ddysgu mwy am astudio'r Gymraeg ym Mangor ac i fwynhau atyniadau Prif Adeilad y Brifysgol ynghyd â Chanolfan Pontio.
Dywedodd Dr Aled Llion Jones, Pennaeth yr Adran, “Hyfryd dros ben oedd gweld bod cynifer wedi dod, a hynny ar eu liwt eu hunain ac yn ystod eu gwyliau hanner tymor.”