Cafodd myfyrwyr o Brifysgol Bangor brofiad i’w gofio wrth iddynt deithio i Gaerdydd i ymweld â Chynghrair Sgrin Cymru yn Wolf Studios a phencadlys y BBC yn Sgwâr Canolog, Caerdydd.
Ynghyd â’i cyd-myfyrwyr o Goleg Menai, cawsant y dasg o ffilmio eitem newyddion ar y testun llosg, Deallusrwydd Artiffisial (AI). Yn goruchwylio’r ffilmio roedd y gyfarwyddwraig a’r person camera profiadol, Meinir Siencyn.
Dywedodd Carol Jones, Rheolwr Academi Sgrin, “Mae meithrin y berthynas yma gyda chriwiau proffesiynol yn holl bwysig ac yn brofiad amhrisiadwy i’r myfyrwyr ac yn sicr fe wnaethon nhw elwa o gyngor a phrofiad Meinir ar y dydd.Roedd yn braf gweld y myfyrwyr yn cyd-weithio ac yn cyd-drafod wrth ddatrys problemau ffilmio ar leoliad.”
“Trefnwyd dangosiad arbennig o’r ffilmiau byrion hynny yn Pontio yn ddiweddar a braf oedd gweld y sinema yn llawn teulu a ffrindiau. Dangoswyd hefyd arlwy ehangach o waith modiwlau gwahanol Prifysgol Bangor a Choleg Menai. Mae’n brofiad buddiol i’r myfyrwyr i ddangos eu gwaith i gynulleidfa ehangach ac i weld eu gwaith ar y sgrin fawr.”
Yn ystod y daith i Gaerdydd cafwyd hefyd gyflwyniad gyrfaol gan y criw addysgiadol yng Nghynghrair Sgrin Cymru (Screen Alliance Wales) a throsolwg o’r cynyrchiadau mawr enwog sydd yn cael eu ffilmio i lawr yn ne Cymru.
Cafwyd hefyd daith estynedig o amgylch pencadlys BBC Cymru, adeilad newydd sbon gyda’r dechnoleg darlledu ddiweddaraf. Cafodd ein myfyrwyr gyfle i weld set Crimewatch, Scrum V Live, Newyddion S4C a Wales Today yn ogystal â stiwdios Radio Cymru a Radio Wales. Unwaith eto, cafwyd cyfle i gyfarfod a gweithwyr proffesiynol. Cafwyd sesiynau gyda’r golygydd profiadol Nikki Sirrell oedd yn egluro sut yr oedd yn mynd ati i olygu ar gyfer rhaglen ddogfen a’r cymysgydd dybio Darran Clement ddangosodd sut yr oedd yn mynd ati i osod y gwahanol haenau o sain a sut i greu effeithiau sain.
Dywedodd Stephanie Steventon, Darlithydd mewn Cynhyrchu yn y Cyfryngau, “Roedd y daith i Gaerdydd yn gyfle gwych i fyfyrwyr brofi realiti gweithio o fewn y diwydiannau creadigol. Trwy gael y profiad ymarferol yn y BBC, gobeithio bod myfyrwyr bellach yn teimlo nad yw eu dyheadau i weithio yn y meysydd hyn allan o’u cyrraedd. Mae gallu siarad ag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant ar wahanol gamau o’u gyrfaoedd ym maes cynhyrchu ffilm, teledu a radio wedi golygu bod gan ein myfyrwyr bellach ffocws clir ar gyfer eu hamser yma ym Mangor, boed hynny’n ennill sgiliau meddal newydd, sgiliau technegol neu ymwybyddiaeth o sut i dorri trwodd i’r diwydiannau creadigol ar ôl graddio.”
Darganfyddwch ein cyrsiau Ffilm, Cyfryngau a Newyddiaduraeth