Mae Prifysgol Bangor yn dathlu 100 mlynedd o gerddoriaeth eleni, ac wrth i Gerddorfa Symffoni a Chorws Prifysgol Bangor baratoi ar gyfer eu cyngerdd nesaf ar ddydd Sul 27 Tachwedd, mae aelodau presennol y Corws, rhyw 50 o aelodau, wedi bod yn rhannu’r budd y maent yn ei gael o ddod at ei gilydd i ganu yn rheolaidd.
Mae’r Corws yn rhyngwladol ei natur, gyda’r myfyrwyr a’r aelodau lleol yn dod o bob rhan o’r byd – mae’r aelodaeth bresennol yn cynrychioli Cymru, Lloegr, yr Alban, Iwerddon, Gwlad Pwyl, y Seychelles, Trinidad, yr Almaen, Ffrainc, UDA, Japan, Gwlad Groeg a'r Eidal.
Gydag aelodau o bob oed ac o gefndiroedd gwahanol, mae’n gorws cynhwysol a’r llawenydd pur o ganu a chreu cerddoriaeth sy’n ganolog i bopeth.
Ond yn ôl yr aelodau mae dod ynghyd i ganu yn dod â llawer o fanteision eraill: gwneud ffrindiau, seibiant oddi wrth astudio a hefyd y cyfle i ganu gyda'r gerddorfa, sydd yn ei dro yn dod â buddion iechyd meddwl go iawn.
Yn ystod un ymarfer dwedodd un aelod o’r gerddorfa yn dawel, “Fe wnes i golli fy ngŵr yn annisgwyl y llynedd. Ro’n i'n meddwl na fyddwn i byth yn teimlo fel canu eto. Ond roedd gen i ffrindiau yma, ac fe wnes i barhau i ddod. Mae wir wedi fy helpu i ddod trwy’r brofedigaeth.”
Mae’r corws ar hyn o bryd yn brysur yn ymarfer bob nos Fercher ar gyfer eu cyngerdd nesaf gyda cherddorfa symffoni Prifysgol Bangor a chôr lleol Cantorion Menai yn Neuadd Prichard-Jones ar 27 Tachwedd, lle byddant yn canu gweithiau cyfansoddwyr a chanddynt gysylltiad agos â Bangor mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.
Mae’r rhaglen yn cynnwys gwaith gan Gyfarwyddwr Cerdd cyntaf y Brifysgol yn 1912, E T Davies, Dilys Elwyn Edwards, John Hywel, Caradog Roberts a William Mathias, a bydd yn cyngerdd yn cael ei arwain gan Gyfarwyddwr Cerdd presennol y brifysgol, Gwyn L Williams a’r Arweinydd Chris Atherton, a’r unawdwyr fydd y soprano Sioned Terry, y tenor Robyn Lyn Evans a’r bariton Jeffrey Williams.
Ceir rhagor o fanylion a thocynnau ar wefan Pontio: https://www.pontio.co.uk/online/article/22BUSOChorusNov
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â chorws y brifysgol, cysylltwch trwy’r dudalen hon