River and Sea Sense yn Cydweithio ag Academyddion a Myfyrwyr y Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor i Gynhyrchu Ffilm am Ddiogelwch Dŵr
Mae sylfaenydd River and Sea Sense, Debbie Ann Turnbull, MBE, wedi bod yn gweithio gyda myfyrwyr y cyfryngau ac academyddion o Brifysgol Bangor i gynhyrchu ffilm ddogfen fer i’r 'River and Sea Sense Training Academy.' Nod y fenter yw ehangu effaith River and Sea Sense yn y sector diogelwch dŵr ac atal boddi.
Crëwyd y ffilm gan academyddion a myfyrwyr y cyfryngau a cherddoriaeth, ym Mhrifysgol Bangor, ac mae wedi ei chynhyrchu i’w harddangos i gynulleidfaoedd allweddol, gan gynnwys athrawon nofio, achubwyr bywyd, darpar gyllidwyr, noddwyr a sefydliadau ieuenctid fel arf hyrwyddo pwerus. Bydd hefyd yn ymddangos ar wefan River and Sea Sense, i godi ymwybyddiaeth am y mater hollbwysig hwn ac annog unigolion a sefydliadau i gynnwys yr hyfforddiant 'plug-and-play' yn eu rhaglenni.

Er mai prif amcan y project yw atal achosion o foddi a chynyddu ymwybyddiaeth, roedd y cydweithio hefyd yn gyfle gwerthfawr i fyfyrwyr y cyfryngau gymhwyso'r sgiliau y maent wedi eu datblygu yn ystod eu hastudiaethau trwy ffilmio'r rhaglen ddogfen. I gyd-fynd â'r project, cyfansoddodd Marcos Miguel Compres Medrano, myfyriwr cerddoriaeth, ddarn o'r enw 'The Ripple Effect' i’r rhaglen ddogfen.
Fel rhan o’r project, recordiodd y myfyrwyr sgwrs gan Debbie Ann Turnbull, a rannodd ei phrofiad personol o golli ei mab trwy foddi. Mae ei stori hynod deimladwy a'r hyn a ddysgodd yn sgil y profiad wedi troi’n ymgyrch genedlaethol i hybu addysg diogelwch dŵr. Mae Debbie wedi siarad gyda miloedd o bobl ar draws y Deyrnas Unedig a bydd yn brif siaradwr yn y National Drowning Prevention Conference eleni. Mae ei gwaith wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol, gan gynnwys gwobr cyflawniad gan y Loteri Genedlaethol.
Meddai Debbie, “Rwyf bob amser yn chwilio am ffyrdd o godi ymwybyddiaeth am y mater hollbwysig hwn, ac roedd y cyfle i ddefnyddio cyllid SPF i weithio gyda phobl ifanc ar ffilm yn broject agos iawn at fy nghalon. Mae gweithio gydag academyddion a myfyrwyr i greu rhaglen ddogfen a fydd yn cael ei gweld gan lawer o bobl, gyda’r nod yn y pen draw o achub bywydau, yn hynod o arwyddocaol i mi”.
Ychwanegodd “Mae staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi bod yn anhygoel - yn dosturiol, yn reddfol ac yn dalentog. I grynhoi, maen nhw'n eithriadol!”
Cynhyrchwyd y ffilm dan arweiniad Stephanie Steventon, Darlithydd Cynhyrchu Ffilm a’r Cyfryngau a Carol Jones, Rheolwr Academi Sgrin, ac roedd myfyrwyr ym mlwyddyn olaf eu gradd a gymerodd ran yn rhannu eu brwdfrydedd am y cyfle.
Dywedodd Kieran Samuel, sy’n astudio Cynhyrchu Ffilm a’r Cyfryngau, “Rwy’n meddwl ei fod yn wych. Mae'n rhoi cyfle i bobl fel fi, a fydd yn graddio'n fuan, ddangos fy ngwaith fel gweithredwr camera. Mae cael fy enw ar gredydau ffilm ddogfen gyda chysylltiad â phrifysgol yn amhrisiadwy a bydd yn fy helpu wrth wneud cais am swyddi yn y diwydiant.”
Meddai Cameron Jones sydd hefyd yn astudio Cynhyrchu Ffilm a’r Cyfryngau, “Mae hwn wedi bod yn brofiad anhygoel. Mae wedi rhoi blas ar y diwydiant yn y byd go iawn i mi a chyfle i adeiladu fy mhortffolio gydag enghreifftiau o waith proffesiynol. Mae’n wych cymhwyso’r hyn rydyn ni wedi ei ddysgu mewn project go iawn a chreu rhywbeth sy’n cael effaith.”
Mae’r cydweithrediad rhwng River and Sea Sense a myfyrwyr y cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor yn tynnu sylw at rym arloesi, addysg ac adrodd straeon i hyrwyddo diogelwch dŵr ac achub bywydau.
Cyllidwyd y project gan y Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesi, menter a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae’r cynllun yn meithrin cydweithio rhwng busnesau a Phrifysgol Bangor, gan alluogi datblygiad projectau a phartneriaethau arloesol sy’n ysgogi newid cadarnhaol.
Mae'r cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesi yn agored i gwmnïau sydd wedi eu lleoli yng Ngwynedd, Ynys Môn a Sir y Fflint
a chaiff ei gefnogi gan Gyngor Sir Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Sir y Fflint. Mae'r project wedi derbyn £360,000 gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig.
Ewch i’r Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesi | Prifysgol Bangor neu e-bostiwch siv@bangor.ac.uk am ragor o wybodaeth.
I gael rhagor o wybodaeth am y fenter, ewch i www.riverandseasense.com.