Red colour block

The Ghost Reader: cyfrol sy'n adfer cyfraniadau merched i astudiaethau'r cyfryngau

Mae'r gyfrol newydd The Ghost Reader yn cynnig persbectif ffres ar hanes deallusol astudiaethau’r cyfryngau.

Mae’r rhesymau na wyddom efallai am y menywod hyn yn cynnwys gwahaniaethu yn erbyn menywod mewn cyflogaeth academaidd, dargyfeirio menywod i’r diwydiant hysbysebu neu i ganolfannau ymchwil fel cynorthwywyr, yn ogystal â hiliaeth, gwrth-gomiwnyddiaeth ac effaith parhaus y pethau hynny.
Dr Elen D. Hristova,  Ddarlithydd mewn Ffilm a'r Cyfryngau, Prifysgol Bangor

Roedd y merched rydyn ni’n eu cyflwyno yn y llyfr hwn yn aml yn cael eu rhwystro rhag cael deiliadaeth academaidd, a hwythau ar yr un pryd yn gwneud ymchwil pwysig ac yn cefnogi gyrfaoedd academaidd eu gwŷr. Roedd cymalau nepotistiaeth mewn prifysgolion yn golygu mai dim ond un ohonynt y gellid ei gyflogi yn yr un adran yn y brifysgol; a hwnnw, fynychaf, fyddai’r gŵr. Er enghraifft, yn achos Helen Merrell Lynd, diystyriwyd ei chyfraniad sylweddol i Middletown: A Study in American Culture (1929) gan fod ei gŵr eisiau cyflwyno’r llyfr fel ei draethawd doethurol ei hun.

“Roedd menywod o liw, a gafodd eu gwthio hyd yn oed ymhellach i’r cyrion a’u heithrio o’r academi yn mynd ati i gyhoeddi eu beirniadaeth a’u newyddiaduraeth hwythau mewn papurau newydd. Yn achos Claudia Jones, a aned yn Nhrinidad a Thobago, ar ôl cael ei halltudio o'r Unol Daleithiau ym 1955 am fod yn aelod o'r Blaid Gomiwnyddol, daeth i Lundain. Roedd yn ffigwr pwysig yng nghymuned Garibïaidd y Deyrnas Unedig ac ym 1958 cychwynnodd y West Indian Gazette, ac yna’n ddiweddarach hi sefydlodd Garnifal Notting Hill. Mae wedi ei chladdu ym Mynwent Highgate yn Llundain; i'r chwith o Karl Marx.

“Mae The Ghost Reader yn gwahodd y darllenwyr, yn ogystal â myfyrwyr sy’n defnyddio’r llyfr yn eu dosbarthiadau, i adeiladu ar etifeddiaeth ddeallusol y menywod hyn. Ac i barhau â’r ymdrechion i adfer hanes ffeministiaeth mewn amrywiaeth eang o ddisgyblaethau academaidd o fioleg gyfrifiadol i astudiaethau’r cyfryngau!”

Cyhoeddir The Ghost Reader gan Goldsmiths Press a chaiff ei ddosbarthu gan MIT Press. I gael rhagor o wybodaeth ewch i: https://www.gold.ac.uk/goldsmiths-press/publications/the-ghost-reader/

Golygwyd gan Elena D. Hristova, Aimee-Marie Dorsten, Carol A. Stabile.

Cyfranwyr:

Hadil Abuhmaid, Miche Dreiling, Diana Kamin, Marianne Kinkel, Tiffany Kinney, Elana Levine, Malia Mulligan, Morning Glory Ritchie, Gretchen Soderlund, Shelley Stamp, Laura Strait, Rafiza Varão.

Dr Elena D. Hristova yn trafod y gyfrol 'The Ghost Reader'

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?