Prif Adeilad y Celfyddydau a Pontio, Prifysgol Bangor

Iechyd a Lles Pobl Fyddar yng Nghymru

Project a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC):  Mynd i'r Afael ag Anghydraddoldebau Iechyd er Budd ac ar y Cyd â Chymunedau Byddar sy'n Defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yng Nghymru.

 

Mae dros 4000 o bobl yng Nghymru’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) fel iaith gyntaf neu ddewis iaith, ond maent yn wynebu problemau niferus gydag annhegwch ac anghydraddoldebau iechyd o’u cymharu â siaradwyr Cymraeg a Saesneg.

 

  • Gwasanaethau dehongli anghyson.
  • Cyfathrebu gwael a all arwain at ddiffygion o ran diagnosis a thriniaeth. 
  • Mae pobl Fyddar mewn mwy o berygl o gael diagnosis a thriniaeth annigonol ar gyfer glefydau cronig ac maent yn dueddol o fod ag iechyd gwaeth na’r boblogaeth gyffredinol.
  • Mae pobl Fyddar hefyd ddwywaith yn fwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl na’r boblogaeth gyffredinol.
  • Methu â chael mynediad llawn at y Parciau Cenedlaethol a defnyddio llwybrau’r arfordir oherwydd nad oes deunyddiau ar gael mewn BSL. 

Cyflwyniad i Brosiect Iechyd Byddar Cymru mewn BSL

Cefndir y project

Mae’r project tair blynedd hwn, sydd werth £1.04 miliwn, yn dod â thîm rhyngddisgyblaethol ynghyd sy’n cynnwys pobl sy’n defnyddio BSL a phobl sy’n gallu clywed. Daw cydweithwyr o Brifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Gorllewin Lloegr, Prifysgol Graz yn Awstria, Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain, Iechyd Cyhoeddus Cymru yng Nghaerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Canolfan Sain Golwg Arwyddion ym Mae Colwyn a Chyngor Cymru i Bobl Fyddar.

Mae’r tîm yn cynnwys arbenigwyr yn y meysydd canlynol: iaith a chyfathrebu, iechyd meddwl pobl Fyddar, iechyd a lles pobl Fyddar, gwasanaethau dehongli, y gyfraith, a mynediad a lles amgylcheddol. Gan weithio gydag aelodau o’r gymuned Fyddar, byddant yn cyd-ddylunio, cyd-adeiladu a gweithredu a gwerthuso atebion sy’n cael eu harwain gan y gymuned ar gyfer eu cymunedau yng Nghymru. 

Nod y project yw gwella gwasanaethau gofal iechyd drwyddi draw trwy weithio gyda phobl Fyddar, y GIG, byrddau iechyd a darparwyr gwasanaethau eraill. Yn ogystal, byddwn hefyd yn datblygu geiriadur ac adnoddau ar-lein i helpu dehonglwyr, darparwyr gwasanaethau a'r rhai sydd â diddordeb mewn ieithoedd arwyddion ac ymchwil sy’n ymwneud ag iaith arwyddion. Rydym hefyd yn datblygu apiau canllawiau fideo i wella mynediad at Barc Cenedlaethol Eryri, Llwybr Arfordir Penfro a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

I gael rhagor o wybodaeth am y project ac ar gyfer ymholiadau gan y wasg, cysylltwch â:

Dr Christopher Shank

Sylwch fod y dudalen hon yn cael ei datblygu a bydd rhagor o wybodaeth am y project, y tîm, a’r cynlluniau estyn allan ac ymgysylltu cymunedol yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol agos.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?